Ar derfyn yr wythnos hon fe fydd label recordiau Ankst yn rhyddhau ei record olaf, sef casgliad o sesiynau wnaeth Llwybr Llaethog eu recordio ar gyfer rhaglen y DJ chwedlonol John Peel ar Radio 1 yn y 1980au.

Ym mis Ionawr eleni bu farw Emyr Glyn Williams, un o sylfaenwyr label recordiau Ankst yn 1988 a’r dyn fu’n gymorth amhrisiadwy i yrfaoedd bandiau lu.