Mae’r Hafod ar ei gorau pan fo’r gwanwyn yn benthyg ei liwiau i’r caeau a’r perthi, ac mae’r dydd ar ei gorau pan mae hi’n ifanc. Ers talwm, roedd y ffaith ei fod o’n gorfod codi am bump yn hanner lladd Siôn – mae o’n dal i gasáu’r düwch drwy’r ffenest pan mae’n gwisgo amdano drwy’r misoedd tywyll. Ond yn y gwanwyn, mae gweld y dydd yn cyrraedd yn bowld ac yn llachar ac yn lliwgar yn un o’i hoff rannau o’r dydd. Dim ond fo a phaned boeth a’r adar mân. Yr adeg honno, mae’r byd yn teimlo fel petai