Roeddwn i’n meddwl ein bod ni wedi methu allan ar gymhwyso ar gyfer twrnamaint mawr mewn digon o ffyrdd. Welsom ni gamgymeriadau annheg yn Lerpwl yn 1977 a Chaerdydd yn 1985. Roedd y goleuadau wedi mynd allan yn Abertawe yn 1981 a chollom ni i dîm Rwsia oedd gydag o leiaf un chwaraewr oedd wedi cymryd cyffuriau yn 2003. Wrth gwrs roedden ni wedi methu cic o’r smotyn pwysig yn erbyn Romania yn 1993, ond doedden ni erioed wedi cymryd rhan mewn cystadleuaeth penaltis ar ôl gem gyfartal… tan yr wy