Cyfeillgarwch annisgwyl gydag artist yn ei naw degau wnaeth selio cariad paentiwr ifanc tuag at gelf.

Ar benwythnosau, byddai plant pentref Llanfrothen, a Lorna Joscelyne yn eu mysg, yn mynd am wersi celf anffurfiol at yr artist Eleanor Brooks. Yno y datblygodd creadigrwydd Lorna, a gafodd ei magu yn y pentref gwledig rhwng Blaenau Ffestiniog a Phorthmadog.