Dyma bei efo gwahaniaeth. Pei Pob Dim. Ond nid pei â chrwst toes trwchus ydyw, ond pei wedi’i wneud gan ddefnyddio wrapiau. Mae’n fwyd llysieuol ac yn ysgafnach i’w fwyta ac yn gyflymach i’w baratoi na phei arferol. Mi fedrwch chi fod yn greadigol gyda’r cynhwysion a chynnwys eich hoff fwyd fel y dymunwch. Mae’n syniad gwych fel byrbryd neu ginio ysgafn. Yr hyn sy’n wych am bei fel hyn ydy bod modd defnyddio’r gwahanol weddillion sydd gennych yn yr oergell, yn hytrach na gwastraffu bwyd.


Beth fydda i ei angen?

Wraps

Tatws Maris Pipers

Caws Cambozola

Caws Brie

Tsili

Pupur coch, gwyrdd ac oren

Nionyn

Tomato

Garlleg

Pys melyn

Halen Svaneti

Shibwnsyn / sibolsyn

Mayonnaise

Mwstard


Paratoi a choginio

Torrwch y tatws maris pipers yn fan a’u rhoi yn y meicrodon am 12 munud

Torrwch yr holl gynhwysion eraill yn fan, ac eithrio’r caws, a’u ffrio am gwpwl o funudau

Gwasgarwch fenyn ar bowlen addas i’w rhoi yn y popty, a rhowch wrap o’i mewn gan wneud yn siŵr eich bod yn gorchuddio’r tu mewn yn gyfan

Torrwch y Cambozola yn haenau a’u gosod ar waelod y bowlen

Rhowch binsiad da o halen Svaneti neu halen o’ch dewis ar y llysiau a chymysgu’r tatws

Gwasgarwch y cymysgedd llysieuol yn y bowlen

Torrwch y Brie yn haenau, a’u gosod ar ben y llysiau

Cymysgwch lwy fwrdd da o mayonnaise gyda mwstard a’i wasgu ar ben y caws

Gorchuddiwch y pei gyda wrap cyn ei roi yn y popty ar wres uchel am ryw 5 munud

Dylai ymylon y pei fod wedi crimpio pan fydd yn barod

Torrwch, rhannwch a mwynhewch!