Faint ohonom sy’n euog o ddwyn pum munud digywilydd yn y bore i brynu brechdan mewn archfarchnad neu garej betrol cyn diwrnod llawn o waith? Mae’n haws yng nghanol bwrlwm gwallgo’r bore, ond mae’n bell o fod yn opsiwn perffaith. Mae’r disgwyliad o ran blas yn hynod, ond y realiti wastad yn siom. C’mon! Rydan ni i gyd wedi bod yn y sefyllfa. Mae llawer o’r brechdanau parod sydd ar gael yn llawn calorïau cudd, ac mae eu bwyta’n teimlo fel ein bod yn bwyta cardfwrdd. Yn aml, mae’r prisiau hefyd yn ddrud a’r cynnyrch yn teimlo’n llawn cadwolion amrywiol gydag enwau estron. Dyma syniad am frechdan llawn blas sy’n cymryd cyfnod byr i’w chreu. Ac yn wahanol i frechdan parod o siop, wnaiff hi ddim siomi!


Beth ydw i ei angen?

2 frest cyw iâr

2 ewin o arlleg wedi’u torri’n fan

1 nionyn bach, wedi’i sleisio’n denau

2 llwy fwrdd o fenyn

2-3 tsili, wedi’u sleisio (addaswch yn ôl eich dewis sbeis)

2 llwy fwrdd o pesto

1 llwy fwrdd o fwstard

Halen a phupur

Torth Bloomer wedi’i sleisio

Caws o’ch dewis (fe ddewisais i Montery Jack)


Paratoi a choginio

1. Rhowch sbeisys o’ch dewis ar y ddwy frest cyw iâr gyda halen, pupur, a garlleg man.

2. Cynheswch y menyn mewn sgilet dros wres canolig.

3. Ychwanegwch y nionod wedi’u sleisio a’r tsili i’r sgilet nes bod y nionod wedi’u carameleiddio a’r tsili yn feddal.

4. Gwthiwch y nionod a’r tsili i un ochr o’r sgilet, ac ychwanegwch y ddwy frest cyw iâr. Coginiwch am ryw 5-6 munud ar bob ochr, neu nes eu bod wedi’u coginio.

5. Tynnwch y cyw iâr o’r sgilet a gadewch iddo orffwys am ychydig funudau. Torrwch e i mewn i stribedi tenau.

6. Mewn powlen fach, cymysgwch y pesto a’r mwstard at ei gilydd.

7. Lledaenwch y cymysgedd mwstard pesto ar un ochr o bob sleisen o’r dorth Bloomer.

8. Rhowch y cyw iâr wedi’i sleisio ar un darn o fara, ac ychwanegwch y nionod wedi’u carameleiddio a’r tsili ar ben y cyw iâr.

9. Rhowch sleisen hael o gaws ar ben y cyfan a gorchuddiwch gyda’r sleisen arall o fara i wneud brechdan.

10. Cynheswch sosban gril neu sgilet dros wres canolig. Rhowch y frechdan ar y badell a choginiwch am 2-3 munud ar bob ochr, neu nes bod y bara yn cael ei dostio’n grimp.

11. Tynnwch o’r gwres, a gadewch iddo oeri ychydig cyn ei weini.

12. Ychwanegwch saws o’ch dewis.