Mae’r gyfres yma’n bwrw golwg ar atgofion rhai o wynebau cyfarwydd Cymru am fwyd a sut mae hynny wedi dylanwadu eu harferion bwyta heddiw. Y ddigrifwraig o Ynys Môn, Kiri Pritchard-Mclean, sy’n rhannu ei hatgofion bwyd yr wythnos hon. Ym mis Ebrill fe fydd Kiri yn ymddangos yn y gyfres newydd Alun, Chris a Kiri yn Seland Newydd ar S4C, ac yn mynd ar daith gyda’i sioe ‘Peacock’ ym mis Mai…
Dw i’n credu mai un o’r atgofion cynharaf sy gen i ydy sleisio tafell drwchus o fara – doedden ni byth yn prynu bara wedi’i sleisio – a’i dostio ar yr Aga. Fe fyddai’r dafell mor drwchus â’r Yellow Pages a lliw eitha’ tebyg hefyd oherwydd yr holl fenyn ro’n i’n rhoi arnyn nhw.
Ges i fy magu ar fferm ond doedd fy rhieni ddim yn gogyddion da. Yn ein tŷ ni, nid safon y bwyd oedd yn bwysig, ond faint ohono oedd ar y plât. Ond ro’n i wrth fy modd efo’r prydau bwyd yna pan oeddan ni gyd yn eistedd o gwmpas y bwrdd yn sgwrsio efo’n gilydd. Dyna rai o fy atgofion hapusaf.
Pan o’n i yn y brifysgol roedd fy ffrind, Faith, a fi yn byw ar frand o nwdls rhad iawn oedd yn costio tua 17c yn Home Bargains. Dw i wastad yn gwneud yn siŵr bod rhai yn y tŷ achos maen nhw’n gyflym, yn flasus, ac yn fy atgoffa o gyfnod hapus iawn yn y brifysgol. Maen nhw’n costio 27c rŵan!
Dw i wrth fy modd efo bwyd Japaneaidd. Mae’n flasus iawn ond – yn wahanol i’r rhan fwyaf o’r bwydydd dw i’n caru – dydy bwyd Japaneaidd ddim yn fy ngadael i’n gorwedd ar y llawr efo botymau’r jîns ar agor! Fyswn i wrth fy modd yn adeiladu bwyty Japaneaidd ardderchog yn Ynys Môn fel fy mod i’n gallu mynd yno drwy’r amser.
Dw i’n gwybod fy mod i’n mynd yn hen rŵan achos dw i wir yn credu bod cawl a tosti yn bryd heb ei ail yn y gaeaf. Dw i’n hoffi bod yn greadigol gyda chawl a’r gwahanol flasau fedrwch chi greu achos mae’n gas gen i wastraff bwyd ac mae cawl yn ffordd wych o ddefnyddio’r pethau dach chi wedi anghofio amdanyn nhw yn yr oergell.
Pizza ydy’r blas sy’n fy atgoffa o’r haf. Mae gynnon ni bopty pizza ac mae fy mhartner a fi yn cael lot o bartis ym misoedd yr haf ac yn coginio pizzas i bawb. Mae o’n gallu gwneud toes ar gyfer deg o bobl ond, weithiau, dim ond cwpl o ffrindiau sy’n dod draw felly mae pawb yn cael dau pizza yr un – dw i ddim yn cwyno am hynna!
Fy mhartner sy’n gwneud y bwyd os oes pobl yn dod draw am swper. Dw i’n gofyn iddo wneud tortillas ffres achos dw i wrth fy modd cael lot o wahanol blatiau a bowlenni o fwyd ynghanol y bwrdd lle mae pawb yn gallu helpu eu hunain.
Mae genna’i rysáit ar gyfer pei banoffee fegan alla’i wneud mewn hanner awr.
Dw i’n defnyddio bisgedi sinsir wedi’u malu’n fân ar gyfer y gwaelod – dw i’n hoffi’r rhai rhataf. Dw i’n cynhesu rhywfaint o fargarin ac yn ei gymysgu gyda’r bisgedi. Wedyn dwi’n rhoi’r gymysgedd mewn tun cacen wedi’i iro, ac yn gwthio’r briwsion bisgedi i lawr fel ei fod yn solet, a’i roi yn yr oergell am tua 25 munud.
Wedyn dw i’n torri dwy fanana a’u rhoi i un ochr. Dw i’n defnyddio hufen fegan dach chi’n gallu chwipio – y math efo ceirch sydd orau. Dw i’n rhoi’r hufen o’r neilltu a – dyma’r rhan fwyaf diog o’r rysáit – dw i’n lledaenu Biscoff dros y bisgedi. Dyna’r “offee” yn fy banoffee. Dw i’n rhoi’r bananas ar ei ben, yn ychwanegu’r hufen, ac yna ei roi yn ôl yn yr oergell nes bydd ei angen. Ond dach chi’n gallu ei fwyta ar unwaith. Mae MOR felys – fel mae’r stwff gorau i gyd ynde?
Fe fydd Peacock, sioe newydd sbon Kiri, yn mynd ar daith o 4 Mai trwy gydol y flwyddyn. Mae mwy o wybodaeth fan hyn.
Bydd Kiri hefyd i’w gweld yn y gyfres newydd Alun, Chris a Kiri yn Seland Newydd sy’n dechrau ar S4C nos Fercher, Ebrill 17 tan Fai 1, 9 o’r gloch.