Cwmni siocled Baravelli’s yng Nghonwy sydd wedi creu’r campwaith yma ar gyfer y Pasg. Fe gymerodd wythnos i’w greu gan ddefnyddio 12 kilo o siocled Fino de Aroma.
Mae’r wy yn dangos y ddraig chwedlonol sy’n llechu yn nyfroedd Aber Conwy ac i’w weld yn ffenest siop Baravelli’s yn y dref.
Mae’r cwmni wedi ennill dros hanner cant o wobrau am eu siocled ers i Emma a Mark Baravelli ddechrau gwneud eu danteithion melys 13 blynedd yn ôl.
Pasg Hapus i chi i gyd!
![](https://golwg.360.cymru/ased/sites/2/2024/03/Baravellis-wy-Pasg-1-640x751.jpg)