Mae distyllfa wisgi yn y gogledd wedi bod yn bwydo sbarion eu haidd brag i wartheg ar fferm gyfagos.
Bob dydd, mae 400 o wartheg Fferm Pentre Aber yn cael pedair tunnell o haidd o Ddistyllfa Aber Falls.
Mae hyn yn helpu i wneud y wisgi o Aber Falls yn un o’r rhai gwyrddaf yng ngwledydd Prydain.
Ar ben hynny, maen nhw’n pwmpio dŵr o dwll turio, ac mae ganddyn nhw baneli solar ar gaffi’r ganolfan ymwelwyr.
Mae’r dŵr sy’n cael ei ddefnyddio i wneud y wisgi yn llifo o fynyddoedd y Carneddau yn Afon Aber, ac maen nhw’n defnyddio tua 200,000 litr ohono bob wythnos.
“Roedd twll turio yma eisoes ar yr eiddo felly roedd yn gwneud synnwyr i ni ddefnyddio’r adnodd naturiol hwnnw, a phwmpio’r dŵr i fyny o 40 metr i lawr yn y ddaear, a gan ein bod yng ngogledd Cymru, ni fydd byth yn rhedeg yn sych,” meddai Sam Foster, y Prif Ddistyllwr.
“Gyda’r fferm fel cymydog rydym yn hapus i gynnig yr haidd ail-law iddyn nhw ac maen nhw’n dod draw efo tractor a threlar a’i gasglu bob dydd yn rhad ac am ddim, ac yna mae’n cael ei gymysgu â phorthiant arall i wneud bwyd iach a maethlon i’r fuches.
“Mae pawb ar eu hennill. Rydym yn cael gwared ar gynnyrch gwastraff y byddai’n rhaid i ni dalu i’w waredu fel arall ac mae’r ffermwr yn cael bwyd am ddim i’w fuches.
“Mae bron y cyfan o’n haidd yn dod o Sir Benfro, ond os hoffai unrhyw ffermwyr sy’n agosach at adref dyfu cnwd fe fydden ni’n hapus i glywed ganddyn nhw.”
‘Help mawr’
Will Davies sy’n ffermio yn Fferm Pentre Aber, a dywed ei bod hi’n help mawr cael yr haidd am ddim.
“Rydyn ni’n defnyddio’r haidd fel rhan o’r cymysgedd ar gyfer y gwartheg godro ac mae’n ffurfio 40 y cant o’u bwyd anifeiliaid ac maen nhw’n gwneud yn dda iawn arno,” meddai.
“Mae’n help mawr i gael yr haidd yn rhad ac am ddim a dim gan fusnes sydd ond dafliad carreg i ffwrdd, felly mae’n hawdd mynd i nôl rhywfaint bob dydd – mae’n gweithio i’r ddistyllfa ac mae’n gweithio i mi.”