Bydd bad achub dosbarth D RNLI Pwllheli yng Ngwynedd yn ailgychwyn rhedeg ei wasanaeth am gyfnodau cyfyngedig o ddydd Mercher (Ebrill 3).

Mae’r orsaf wrthi’n gweithio tuag at y nod o ddod yn gwbl weithredol, wedi iddi gau fis Chwefror yn dilyn “anghydfod difrifol” ymysg aelodau’r criw.

Ar y pryd, dywedodd yr RNLI nad oedd yn bosib cynnal y gwasanaeth ym Mhwllheli oherwydd y tensiynau mewnol.

Dywedodd Ryan Jennings, rheolwr RNLI Cymru, ar y pryd fod angen i’r criw allu ymddiried yn ei gilydd er mwyn achub bywydau.

“Hyd nes bod gennym ni nifer diogel o griw a strwythur rheoli diogel i gefnogi’r orsaf bad achub honno, dydyn ni ddim yn gallu mynd yn ôl i wasanaethu,” meddai.

“Nid yw’n bosibl rhedeg gwasanaeth bad achub gweithredol gyda diffyg ymddiriedaeth ac anghytgord parhaus.”

Ailhyfforddi

Mae’r criw wedi bod yn ailhyfforddi dros y ddeufis diwethaf, wrth gymryd rhan mewn ymarferion ac asesiadau rheolaidd.

Y bwriad yw sicrhau bod gan y gwirfoddolwyr y sgiliau sydd eu hangen er mwyn i’r gwasanaeth allu rhedeg yn esmwyth.

Bydd yr hyfforddiant yn parhau i redeg wrth i’w gwirfoddolwyr ddychwelyd i’w gwaith, yn y gobaith y bydd gorsaf RNLI Pwllheli yn gallu dychwelyd i’w wasanaeth llawn yn fuan.

Mae rheolwyr yr RNLI wedi canmol y criw am eu hymroddiad a’u gwytnwch wrth gwblhau’r hyfforddiant.

Maen nhw’n “hyderus” y bydd y dosbarth D yn gwbl weithredol o fewn yr wythnosau nesaf.