Mae Clwb Criced Morgannwg wedi denu’r bowliwr cyflym Craig Miles ar fenthyg o Swydd Warwick am fis.

Bydd y chwaraewr 29 oed ar gael am dair gêm gynta’r Bencampwriaeth, gan ddechrau gyda thaith i Lord’s i herio Middlesex ddiwedd yr wythnos hon.

Daw’r newyddion yn dilyn anaf i Timm van der Gugten wrth i’r sir baratoi ar gyfer y tymor newydd.

Chwaraeodd Miles i Swydd Gaerloyw cyn symud i Swydd Warwick, ac mae e wedi cipio cyfanswm o 344 o wicedi dosbarth cyntaf ar gyfartaledd o 28.

Mae Morgannwg yn ffyddiog y bydd amodau mis Ebrill yn addas ar gyfer y bowliwr cyflym tal.

Mae gan Swydd Warwick yr opsiwn o alw’r chwaraewr yn ôl pe bai angen, gan ddweud eu bod nhw’n awyddus iddo fe gael y cyfle ar ddechrau’r tymor i chwarae gemau.

Dywed Miles ei fod yn gobeithio dychwelyd i dîm cyntaf Swydd Warwick maes o law.

‘Mwy o ddyfnder’

“Rydyn ni’n falch o gryfhau dyfnder ein carfan wrth ychwanegu Craig Miles ar fenthyg o Swydd Warwick,” meddai Grant Bradburn, prif hyfforddwr Morgannwg.

“Bydd profiad a record dosbarth cyntaf Craig yn rhoi hwb enfawr i’n carfan, wrth i ni geisio dechrau ar gyfnod newydd o lwyddiant i Forgannwg.”

Yn ôl Mark Wallace, Cyfarwyddwr Criced Morgannwg, mae’n “wych” cael ychwanegu’r fath brofiad at y garfan.

“Rydyn ni’n ddiolchgar i Swydd Warwick am ganiatáu i ni fynd â fe ar fenthyg, ac rydym yn edrych ymlaen at ei weld e’n rhedeg i mewn i Forgannwg,” meddai.

‘Atgofion melys’

“Dw i wir yn edrych ymlaen at y cyfle i chwarae criced pêl goch ar ddechrau’r tymor, ac i allu cael milltiroedd y tu ôl i fi,” meddai Craig Miles.

“Mae gen i atgofion melys iawn o chwarae yn erbyn Morgannwg, a dw i’n siŵr y bydda i a’r cefnogwyr yn cael tynnu coes gyda’n gilydd fel y cawson ni yng Nghastell-nedd y llynedd.

“Mae hwn yn gyfle gwych i fi, a dw i wedi cyffroi o gael helpu’r clwb i wthio’u gweledigaeth yn ei blaen.

“Dw i’n teimlo’n dda, yn holliach ac yn barod i fynd.

“Dw i’n teimlo fy mod i wedi canfod rhythm da, ac mae fy nghorff yn gryf.

“Dw i’n edrych ymlaen at yr her, ac fel rydyn ni’n gwybod yn y byd criced, gall pethau newid yn gyflym.”