Daeth ergyd ddwbwl i dîm criced Morgannwg ar drothwy’r tymor criced newydd, wrth iddyn nhw gadarnhau na fydd eu batiwr na’u bowliwr agoriadol ar gael o ganlyniad i anafiadau.

Dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd am ba hyd y bydd y batiwr Eddie Byrom na’r bowliwr cyflym Timm van der Gugten allan.

Mae Byrom wedi datgymalu ei ysgwydd, tra bod van der Gugten wedi anafu croth ei goes.

Bydd Morgannwg yn herio Middlesex yng ngêm gynta’r Bencampwriaeth yn Lord’s ar Ebrill 5.

Hyfforddwr a Llywydd newydd

Yn dilyn penodi Grant Bradburn yn Brif Hyfforddwr, mae Morgannwg wedi penodi Toby Bailey i’w dîm hyfforddi newydd.

Bu’r ddau yn cydweithio gyda thîm cenedlaethol yr Alban, a bydd Bailey yn dychwelyd atyn nhw ar gyfer Cwpan T20 y Byd fis Mehefin.

Ond mae Mark Walton, oedd yn aelod o dîm hyfforddi y cyn-brif hyfforddwr Matthew Maynard, wedi gadael y sir ar ôl cael ei benodi’n sgowt gyda Chlwb Pêl-droed West Ham.

Yn y cyfamser, mae Alan Wilkins, y darlledwr a chyn-chwaraewr Morgannwg, wedi’i benodi’n Llywydd y sir.

Mae’n llais ac yn wyneb cyfarwydd ym myd darlledu chwaraeon, ac yntau’n gyflwynydd gyda’r BBC cyn mynd yn ei flaen i fod yn ddarlledwr rhyngwladol, yn enwedig yn Asia.

Yn ystod ei yrfa ar y cae criced, cipiodd e 243 o wicedi dosbarth cyntaf a 130 o wicedi mewn gemau undydd i Forgannwg a Swydd Gaerloyw.

Roedd yn aelod o dîm Morgannwg gyrhaeddodd rownd derfynol Cwpan Gillette yn 1977.

Bydd yn olynu Gerard Elias, sy’n dod i ddiwedd ei gyfnod wrth y llyw.

Newidiadau mawr

Daw penodiad Alan Wilkins ar ôl cyfnod cythryblus yn hanes y sir unwaith eto.

Fe wnaeth y prif hyfforddwr Matthew Maynard adael ei swydd ar ddiwedd y tymor diwethaf, gyda Grant Bradburn yn ei olynu.

Maen nhw hefyd wedi colli eu prif hyfforddwr arall, Mark Alleyne, a’r capten David Lloyd, sydd wedi ymuno â Swydd Derby.

Mae Sam Northeast wedi’i benodi’n gapten ar gyfer y Bencampwriaeth, gyda Kiran Carlson wrth y llyw ar gyfer gemau undydd.

Roedd Hugh Morris wedi gadael ei rôl yn Brif Weithredwr am resymau iechyd, ac mae Dan Cherry wedi ei olynu, gyda Mark Rhydderch-Roberts yn dod yn gadeirydd.