Mae Clwb Pêl-droed Aberystwyth wedi cael dirwy am fethu â sicrhau bod ffisiotherapydd ar gael ar gyfer eu gêm yn erbyn Pontypridd fis diwethaf.
Mae’r clwb wedi’u cael yn euog o fethu â chydymffurfio â’r rheol sy’n mynnu bod rhaid bod ffisiotherapydd cymwys ar gael ar gyfer gemau’r Cymru Premier.
Roedd disgwyl i’r gêm gynghrair gael ei chynnal ar Fawrth 9, ond cafodd ei gohirio tan nos Fawrth nesaf (Ebrill 9).
Mae’r clwb wedi’u cyhuddo o ddwyn anfri ar y gêm, ac maen nhw wedi cael dirwy o £5,000 gyda’i hanner wedi’i ohirio tan ddiwedd tymor 2024-25 pe baen nhw’n dwyn anfri ar y gynghrair eto rhwng Mawrth 28 a diwedd y tymor hwn.
Bydd yn rhaid i’r clwb dalu costau Pontypridd a Chymdeithas Bêl-droed Cymru mewn perthynas â’r achos hwn hefyd, ond bydd modd iddyn nhw apelio yn erbyn y penderfyniad.