Mae adroddiadau bod Louis Rees-Zammit, cyn-chwaraewr rygbi Cymru, ar fin ymuno â thîm pêl-droed Americanaidd y Kansas City Chiefs.
Achosodd y cyn-asgellwr 23 oed gryn gynnwrf pan gyhoeddodd e ar drothwy Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ei fod e’n cefnu ar rygbi er mwyn dilyn ei freuddwyd o gael chwarae yn yr NFL.
Bellach, mae’n ymddangos ei fod e wedi creu argraff ar bencampwyr y Super Bowl yn ystod ymarferion y Llwybr Chwaraewyr Rhyngwladol yn ddiweddar.
Mae disgwyl y gallai’r Chiefs gadarnhau cyn y penwythnos fod y Cymro wedi ymuno â nhw, ond bydd yn rhaid iddyn nhw dorri’r garfan unwaith eto ac mae’n bosib felly na fydd e’n aros gyda nhw yn y tymor hir.
Ond pe bai’n cyrraedd pen y daith, bydd yn ymuno â rhai o sêr mwya’r byd, gan gynnwys Travis Kelce a Patrick Mahomes, y Chwaraewr Mwyaf Gwerthfawr yn y Super Bowl y ddau dymor diwethaf.
Mae lle i gredu bod y New York Jets, y Cleveland Browns a’r Denver Broncos yn awyddus i’w ddenu fe atyn nhw.
Yn ystod y profion yr wythnos ddiwethaf, rhedodd y cyn-asgellwr 40 llathen mewn 4.46 eiliad.