Mae Lee Trundle yn dweud bod cyflwyno’r gell gosb i gemau pêl-droed yng Nghymru’n “un o’r penderfyniadau gwaethaf erioed”.

Daw hyn ar ôl i Gymdeithas Bêl-droed Cymru gyhoeddi’r arbrawf, fydd yn gweld chwaraewyr sy’n derbyn cerdyn melyn am sarhau swyddogion yn gorfod gadael y cae mewn gemau llawr gwlad i oedolion ac ieuenctid ar gyfer tymor 2024-25.

Cafodd y penderfyniad i gyflwyno’r arbrawf ei gymeradwyo’n unfrydol gan Fwrdd Gêm Gymunedol Cymdeithas Bêl-droed Cymru, yn dilyn treialu’r cynllun mewn chwe chystadleuaeth ar lawr gwlad y tymor hwn.

Mae’r gell gosb wedi’i defnyddio mewn bron i 1,300 o gemau hyd yn hyn, ac mae lle i gredu ei bod wedi gostwng nifer y rhybuddion i chwaraewyr am sarhau swyddogion gan 34% ers y tymor diwethaf, gyda nifer y cardiau coch am y drosedd honno’n gostwng gan 32%.

Mewn arolwg, dangosodd y rhan fwyaf o glybiau gefnogaeth i’r cynllun.

Yn ôl y cynllun, bydd cerdyn melyn am sarhau swyddogion yn arwain at orfod gadael y cae am ddeng munud.

Bydd cardiau melyn cyffredin yn aros yr un fath am droseddau eraill.

Mae disgwyl i’r arbrawf gael ei gyflwyno i gemau ieuenctid maes o law hefyd.

Yn ôl Noel Mooney, Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, mae hwn yn “gam sylweddol ar y daith i wneud pêl-droed y gamp fwyaf cynhwysol, hygyrch a llwyddiannus yng Nghymru”.

Yn ôl Mark Adams, cadeirydd Bwrdd Gêm Gymunedol Cymdeithas Bêl-droed Cymru, roedd angen gweithredu er mwyn lleihau nifer y swyddogion sy’n cefnu ar bêl-droed am eu bod nhw wedi cael eu sarhau a’u camdrin, a phryderon fod nifer y swyddogion sy’n barod i ddyfarnu wedi gostwng.

‘Pob dyfarnwr yn meddwl yn wahanol’

Ond un sydd wedi beirniadu’r cynllun yw Lee Trundle, cyn-ymosodwr Abertawe.

Dywed fod dyfarnwyr yn dehongli’r gêm yn wahanol, ac felly bod ganddo fe bryderon am ddiffyg cysondeb wrth weithredu’r rheol.

“Mae’n rhaid bod hwn yn un o’r penderfyniadau gwaethaf erioed,” meddai ar X (Twitter gynt).

“Mae pob dyfarnwr yn meddwl yn wahanol, felly fydd hon ddim yn cael ei defnyddio yn y ffordd gywir.

“Bydd safon gemau’n gostwng.

“Beth sydd o’i le â chardiau coch a melyn?

“Does dim angen i chi ychwanegu rhagor.”