Mae chwaraewyr a phrosiectau o Gymru wedi cael eu henwebu ar gyfer gwobrau blynyddol Cynghrair Bêl-droed Lloegr (EFL).
Yn eu plith mae Elliot Lee o Wrecsam, sydd wedi’i enwebu ar gyfer Chwaraewr y Flwyddyn yr Ail Adran.
Sgoriodd y chwaraewr canol cae ymosodol 29 oed bymtheg o goliau a chreu pedair arall i’w dîm, ac roedd yn aelod allweddol o’r garfan enillodd y Gynghrair Genedlaethol y tymor diwethaf.
Bydd e’n cystadlu yn erbyn Davis Keillor-Dunn (Mansfield – Wrecsam gynt) a Jodi Jones (Notts County) am y wobr.
Mae un o gyn-chwaraewyr Caerdydd, Nathaniel Mendez-Laing, wedi’i enwebu ar gyfer Chwaraewr y Flwyddyn yr Adran Gyntaf, tra bod y Cymro Jordan James (Birmingham) wedi’i enwebu ar gyfer Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn yn y Bencampwriaeth.
Yng nghategori Prentis y Tymor yr Adran Gyntaf, mae’r golwr Tom King wedi’i enwebu, ochr yn ochr â Dajaune Brown (Derby) a Reuben Wyatt (Northampton).
Bydd yr unarddeg gorau ym mhob adran yn cael eu cyhoeddi ar y noson.
Yn y cyfamser, mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi’u henwebu ar gyfer y Wobr Arloesedd, a byddan nhw’n herio Forest Green Rovers a Norwich am y wobr.
O ran cefnogwyr yr Elyrch, mae’r diweddar Chris Brown, 29, wedi’i enwebu ar gyfer Cefnogwr y Tymor, ac yntau wedi marw ym mis Chwefror ar ôl salwch.
Mae Will Vaulks (Sheffield Wednesday – Caerdydd gynt) wedi’i enwebu ar gyfer gwobr Chwaraewr yn y Gymuned.
Bydd gwobrau Gôl Orau’r Tymor a Gwobr Cyfraniad Arbennig Syr Tom Finney yn cael eu cyhoeddi ar y noson hefyd.