Mae plaid Propel Cymru dan y lach am argraffu taflenni is-etholiad yn Essex.

Yn ôl Propel, maen nhw’n blaid sy’n “well i Gymru” ac mae eu datganiad gorchwyl ar eu gwefan yn dweud y “gall pob gwlad, mawr neu fach, sefyll ar ei thraed ei hunan a bod yn llwyddiannus”.

Wrth drafod economi Cymru, maen nhw’n dweud bod “rhaid inni annog entrepreneuriaeth a chreu’r amodau i bobol fyw bywydau sofran” a hynny “er mwyn creu economi gynhwysol, lle gall pobol ifanc wireddu eu potensial llawn heb orfod gadael Cymru”.

Maen nhw hefyd yn dweud eu bod nhw’n “cefnogi busnesau lleol sy’n defnyddio arian i amddiffyn ein rhyddid”.

Ond fe ddaeth i’r amlwg fod taflenni Sash Patel, eu hymgeisydd mewn is-etholiad yn Nhrelluest (Grangetown), wedi cael eu hargraffu gan gwmni Solopress yn Southend.

Mae nifer o’r prif bleidiau gwleidyddol wedi argraffu eu taflenni gyda’r cwmni dros y blynyddoedd.

Ymateb

“Mae Sash, yr unig ymgeisydd sy’n byw a gweithio yn Nhrelluest, wedi cyhoeddi pump o ddeunyddiau cyfathrebu, a dim ond un gafodd ei gyhoeddi yn Lloegr,” meddai llefarydd ar ran Propel Cymru.