Mae heddiw’n ddiwrnod “pwysig” i godi ymwybyddiaeth o awtistiaeth, yn ôl mam ac ymgyrchydd o Abertawe.
Ebrill 2 ydy Diwrnod Ymwybyddiaeth Awtistiaeth y Byd, ac mae’n gyfle i wella dealltwriaeth, medd Cath Dyer, sy’n fam i ddynes awtistig.
Yn ôl ystadegau, mae gan oddeutu 1% o boblogaeth y Deyrnas Unedig awtistiaeth, sy’n golygu ei bod yn effeithio ar ryw 34,000 o bobol yng Nghymru.
Fe wnaeth y Ceidwadwyr Cymreig gyflwyno Deddf Awtistiaeth yn y Senedd yn 2019, ond cafodd ei gwrthod wedi i’r Blaid Lafur bleidleisio yn ei herbyn.
Fel teulu, mae Cath Dyer a’i merch Claire, sy’n awtistig, wedi dod ar draws llawer iawn o “gamddealltwriaeth”, ac mae hynny dal yn wir i deuluoedd eraill, er bod eu sefyllfa nhw bellach yn well.
Cafodd Claire Dyer, sydd bellach yn 30 oed ac yn byw gyda’i rhieni, ei hanfon i Brighton ychydig o flynyddoedd yn ôl, ar ôl i Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg benderfynu nad oedd lleoliad addas ar ei chyfer yng Nghymru.
“Fel teulu, rydyn ni wedi dod ar draws lot, lot, lot o gamddealltwriaeth,” meddai Cath Dyer wrth golwg360.
“Rydyn ni’n hynod lwcus ar hyn o bryd, mae cwmni gofal gyda ni i’n plentyn hynaf, maen nhw’n cydweithio’n dda gyda ni, a gyda’n Claire ni.”
Mae hi’n derbyn 31 awr yr wythnos o ofal gan gwmni sy’n mynd â hi o’r tŷ i wneud gweithgareddau fel nofio a sgïo.
“Rydyn ni’n ffodus, ond dw i’n gwybod bod lot o deuluoedd eraill dal yn gorfod brwydro am beth sydd angen i’r plant gyda nhw,” meddai ei mam.
“Fel mae pawb yn gwybod, maen nhw’n anableddau anweledig, ac mae’r rheiny’n galed dros ben – y ddealltwriaeth sy’n bwysig.
“Fel ysgrifenyddes Cymdeithas Cefnogwyr Anabl Abertawe (DSA), dw i’n dod ar draws teuluoedd eraill ac mae un person gydag awtistiaeth yn hollol wahanol i berson arall gydag awtistiaeth.”
‘Trin fel person’
Ychwanega Cath Dyer fod croeso i unrhyw un gysylltu â’r DSA neu gangen Abertawe o’r National Autistic Society (NAS) am sgwrs am awtistiaeth.
“Dw i’n adnabod lot o deuluoedd nawr, ac mae rhai [ag awtistiaeth] ddim yn licio edrych arnoch chi, rhai ddim yn fodlon siarad gyda chi, mae rhai, os mae sŵn neu rywbeth yn ypsetio nhw, mae’n rhaid bod mor ofalus achos maen nhw’n gallu mynd o ddim i ddeg mewn eiliad.
“Mae ystafelloedd sensory o gwmpas, lot o deganau maen nhw’n gallu ffidlo gyda nhw i helpu i’w tawelu nhw ychydig… mae e jyst yn bwysig i godi’r ymwybyddiaeth bob tro rydyn ni’n gallu, a chael e ma’s i bawb i feddwl am y peth.”
Gall awtistiaeth fod yn wahanol iawn i wahanol bobol, ond mae rhai o’r symptomau amlycaf mewn oedolion yn cynnwys ei chael hi’n anodd deall beth mae pobol eraill yn ei ddweud neu deimlo, gorbryder mewn sefyllfaoedd cymdeithasol, dehongli pethau’n llythrennol iawn, a dibynnu yr un drefn ddyddiol bob dydd.
Mewn plant iau, gall gynnwys peidio ymateb i’w henw, osgoi cyswllt llygaid, peidio gwenu pan fydd rhywun yn gwenu arnyn nhw, ypsetio os nad ydyn nhw hoffi blas, arogl neu sŵn penodol, ac ailadrodd symudiadau megis symud eu dwylo neu ysgwyd eu corff.
“Mae pawb mo’yn cael eu trin yr un peth â phawb arall,” meddai Cath Dyer wedyn.
“Os yw rhywun yn ffidlo neu’n mynd dros yr un peth drosodd a throsodd, mae rheswm pam maen nhw’n gwneud e, ac i [bobol] fod yn ymwybodol a chael dealltwriaeth.
“Mae awtistiaeth yn gallu trin pawb yn hollol wahanol, ond maen nhw’n berson, a dylen nhw gael eu trin fel person.
“Mae rhai pobol, os ydych chi’n siarad gyda nhw, maen nhw’n fodlon ateb chi. Ond gyda rhai, mae’n rhaid i rieni neu ofalwyr siarad drostyn nhw, achos naill ai maen nhw’n ffaelu siarad, dydyn nhw ddim mo’yn siarad, neu dydyn nhw ddim yn deall beth rydych chi’n siarad gyda nhw amdano.
“Mae shwt gymaint o bethau’n gallu bod yn wahanol, ond codi ymwybyddiaeth heddiw – a phob diwrnod – ond canolbwyntio ar Ebrill 2.
“Mae’n hollbwysig i gael e ma’s yna, fel bod pawb yn deall bod awtistiaeth yn beth pwysig, pwysig, pwysig.”