“Gadewch lonydd iddyn nhw” oedd ymateb Andrew RT Davies i ffrae eto fyth am droi baneri cenedlaethol yn amryliw tros hawliau LHDTC+.

Roedd ffrae fawr yn ddiweddar, ar ôl i’r cwmni dillad chwaraeon Nike ychwanegu lliwiau newydd – glas golau, glas tywyll a phorffor – at faner San Siôr, baner Lloegr, ar grysau tîm pêl-droed Lloegr.

Bryd hynny, dywedodd Rishi Sunak, Prif Weinidog Ceidwadol y Deyrnas Unedig, na ddylid “chwarae” â dyluniad baner Lloegr, sy’n “destun “balchder, hunaniaeth, pwy ydyn ni”.

Bellach, mae Team GB, tîm athletau Prydain, dan y lach ar ôl cyhoeddi baner yr Undeb newydd, sy’n cynnwys lliwiau ychwanegol i’r coch, gwyn a glas traddodiadol ar gyfer Gemau Olympaidd Paris eleni.

Yn ôl y tîm, eu gobaith oedd “gwthio’r coch, gwyn a glas eiconig i’r eithaf” gyda’r dillad sydd wedi cael eu gwneud gan Adidas.

Ond mae lle i gredu na fydd y lliwiau newydd yn ymddangos ar ddillad swyddogol yr athletwyr, gyda baner yr Undeb yn ymddangos gyda’i lliwiau traddodiadol.

‘Ein baneri’

“Y Ddraig Goch a Jac yr Undeb yw ein baneri,” meddai Andrew RT Davies ar X (Twitter) gynt.

“Gadewch lonydd iddyn nhw.”

Ond mae cyfrif ar y cyfryngau cymdeithasol wedi tynnu sylw at enghreifftiau lle mae’r Blaid Geidwadol wedi addasu baner yr Undeb at ddibenion ymgyrchu.