Mae’n “anghyfiawn” fod pobol yng Nghymru’n cael eu gorfodi i dalu am feddyginiaeth ADHD yn sgil rhestrau aros hir y Gwasanaeth Iechyd, yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig.
Cymru sydd â’r gyfradd waethaf yng ngwledydd Prydain o feddygon teulu’n cytuno i rannu gofal cleifion ADHD gyda meddygon preifat, medd ystadegau ar gyfer ITV Cymru.
Yn aml, mae cleifion sy’n ceisio cael gofal gan feddyg ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a meddyg preifat ar yr un pryd yn ceisio diagnosis preifat, a hynny yn sgil amseroedd aros hir y Gwasanaeth Iechyd.
Gall gymryd hyd at ddeng mlynedd a hanner i gael asesiad ADHD drwy’r Gwasanaeth Iechyd, medd ADHD UK.
Ond unwaith mae unigolyn yn cael diagnosis ac eisiau symud eu gofal at eu meddyg teulu, fyddai’n caniatáu iddyn nhw gael triniaeth am ddim, mae hyn yn cael ei wrthod yn aml.
Yng Nghymru, dim ond 19% o bobol wnaeth gais am hynny gafodd eu derbyn, yn ôl arolwg gan ADHD UK ar ran ITV Cymru.
58% oedd y ganran yn Lloegr, 38% yng Ngogledd Iwerddon, a 29% yn yr Alban.
“Fel y gwyddom, yn anffodus, mae dros 9,000 o blant yng Nghymru yn aros am asesiad awtistiaeth neu ADHD yng Nghymru, ac mae’r disgwyl yn peri pryder arbennig i rieni,” meddai James Evans, llefarydd iechyd meddwl y Ceidwadwyr Cymreig.
“Mae’n anffodus ein bod ni nawr yn gweld y cleifion ADHD hyn yn cael eu gorfodi i dalu am feddyginiaeth yn sgil rhestrau aros hir y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru’n gwrthod cydnabod asesiadau ADHD preifat.
“Nawr yw’r amser i’r Llywodraeth Lafur sicrhau bod Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru’n y cydnabod y rhai sydd wedi cael asesiadau ADHD preifat.
“Mae’n anghywir bod y bobol hyn angen ymuno â rhestrau aros y Gwasanaeth Iechyd Gwladol i gael gwybod yr un peth gan arbenigwr meddygol arall er mwyn derbyn y feddygaeth maen nhw ei hagen ar y Gwasanaeth Iechyd.”
‘Gweithio i wella’r gwasanaeth’
Dywed Llywodraeth Cymru eu bod nhw’n gweithio i wella darpariaeth gwasanaethau ADHD i oedolion.
“Rydym yn ymwybodol bod gwasanaethau ADHD i oedolion yn eu dyddiau cynnar a’u bod ar wahanol gamau datblygiad mewn gwahanol rannau o Gymru,” meddai llefarydd.
“Rydym yn gweithio i wella darpariaeth y gwasanaethau, mynediad at asesiad, a’r cymorth cyn ac ar ôl diagnosis.
“Mae’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen cenedlaethol y Llwybr ADHD oedolion yn gweithio i fynd i’r afael â materion sy’n ymwneud â rhagnodi meddyginiaeth, gan gynnwys trefniadau rhannu gofal gyda meddygon teulu, i ddatblygu trefniadau safonol cenedlaethol ac i sicrhau bod gwasanaethau’n gyson ledled Cymru.”
Maen nhw hefyd yn gweithio gyda’r Tîm Niwroamrywiaeth Cenedlaethol i greu amrywiaeth o adnoddau i oedolion ag ADHD.