Dydy gallu ieithyddol siaradwyr Basgeg ddim yn cael ei drosi i ddefnydd tu allan i’r ystafell ddosbarth, yn ôl darlithydd ym Mhrifysgol Bangor.
Mae Dr Cynog Prys, sy’n gweithio yn yr Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithasol, wedi bod yn ymateb i ymchwil sy’n dangos bod 70% o Fasgwyr 16 i 24 oed yn gallu siarad Basgeg, o gymharu â 25% yn nechrau’r 1990au.
Ar y cyfan, fe fu cynnydd o 12% yn nifer y bobol o bob oed sy’n medru’r iaith.
Ond mae’r ymchwil ar ran Llywodraeth Gwlad y Basg yn nodi mai’r Sbaeneg yw dewis iaith gymdeithasol y rhan fwyaf, gyda’r cyfryngau cymdeithasol Sbaeneg yn dylanwadu’n gryf ar y to iau yn enwedig.
Ac fe ddaw er gwaetha’r system drochi sydd ar waith yn y wlad ers rhai degawdau, ac yn ystod cyfnod y Korrika, neu Ras yr Iaith, sy’n annog pobol i siarad a defnyddio’r iaith, yn ogystal â datgan eu bod nhw “o blaid yr iaith Fasgeg”.
Serch hynny, mae’r ymchwil yn dangos bod cryn heriau o hyd i annog pobol ifanc i ddefnyddio’r iaith y tu allan i’r ystafell ddosbarth, gan gynnwys dangos bod yna fanteision i siaradwr Basgeg o ran eu gyrfaoedd.
Mae tystiolaeth hefyd fod dylanwadwyr ar y cyfryngau cymdeithasol yn siarad Sbaeneg yn cael cryn effaith ar y genhedlaeth iau, gan ddangos mai Sbaeneg yw’r ffordd ymlaen, ac nid y Fasgeg.
Cynllunio ieithyddol
“Mae Cymru yn aml yn edrych tuag at Wlad y Basg ym maes cynllunio ieithyddol,” meddai Dr Cynog Prys ar X (Twitter gynt).
“Yn anffodus, a fel ni yng Nghymru, maen nhw yn cael trafferth trosi gallu ieithyddol yn ddefnydd iaith tu allan i’r stafell ddosbarth.
“Angen mwy o gydweithio a datrysiadau newydd i heriau cyffredin!”