Mae Liz Saville Roberts yn dweud nad oes “dim cyfiawnhad” dros ladd gweithwyr dyngarol yn Gaza.
Daw sylwadau arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan yn dilyn cadarnhad fod gweithwyr dyngarol mewn cegin wedi cael eu lladd mewn cyrchoedd awyr gan yr IDF, neu Luoedd Amddiffyn Israel.
Roedd y gweithwyr yn teithio tu allan i barth gwrthdaro mewn cerbydau oedd yn nodi’n glir mai gweithwyr dyngarol oedden nhw.
Cawson nhw eu taro wrth adael warws Deir al-Balah, lle’r oedden nhw wedi bod yn dadlwytho can tunnell o fwyd oedd wedi cael ei gludo dros y môr.
Yn ôl Erin Gore, Prif Weithredwr y World Central Kitchen, “mae bwyd yn cael ei ddefnyddio fel arf yn y rhyfel”, sy’n “anfaddeuol”.
Roedd y saith gafodd eu lladd yn dod o’r Deyrnas Unedig, Awstralia, Gwlad Pwyl, yr Unol Daleithiau a Chanada, a Phalesteina.
Dywed yr IDF fod ymchwiliad ar y gweill, ac mae gwaith y World Central Kitchen wedi dod i ben am y tro.
‘Ystyriwch hyn’
“Pwy bynnag sy’n dal i ddadlau yn erbyn cadoediad – ystyriwch hyn,” meddai Liz Saville Roberts, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd.
“Does dim modd cyfiawnhau lladd gweithwyr dyngarol a sifiliaid mewn unrhyw god moesol.”