Mae prifathrawon mewn dwy sir yn y gogledd yn rhybuddio na fydd ysgolion yn gallu darparu’r un lefel o gymorth iechyd meddwl yn sgil cyllidebau ariannol tynn.
Yn siroedd y Fflint a Dinbych, mae penaethiaid wedi ysgrifennu at rieni i roi gwybod am effaith y diffyg arian ar ysgolion, a’r effaith allai hyn ei chael ar eu gwasanaethau.
Mae’r ddwy sir yn dweud eu bod nhw’n poeni am yr effaith debygol, allai gynnwys llai o gefnogaeth gyda llesiant yn Sir y Fflint a cholli cefnogaeth iechyd meddwl yn Sir Ddinbych.
Rhaid i ysgolion gael cyllid digonol i allu darparu’r gwasanaethau hyn, medd elusen Mind Cymru wrth ymateb.
‘Pob plentyn yn cael eu heffeithio’
Yn y llythyr gan brifathrawon Sir Ddinbych, maen nhw’n cyfeirio at blant yn colli gofal bugeiliol, cefnogaeth lles, cefnogaeth ymddygiad, cefnogaeth iechyd meddwl, cymorth dysgu a gweithgareddau allgyrsiol.
Mae’r llythyr yn nodi bod yr awdurdod lleol wedi “gwneud popeth o fewn ei allu” i amddiffyn eu cyllidebau, “ond yn syml iawn ni allan nhw wneud digon; nid oes ganddyn nhw unrhyw arian ychwanegol i’w roi i ysgolion”.
“Bydd pob plentyn unigol yn cael ei effeithio,” medd y llythyr, sy’n annog rhieni i ysgrifennu at eu Haelod Seneddol a’u Haelod o’r Senedd.
“Mae toriadau i’n cyllidebau yn golygu y bydd ein plant yn cael llai o gymorth, llai o ddarpariaeth a llai o gyfleoedd, ac nid oes gennym ddewis ond gwneud hyn; yn syml, nid oes arian i ni barhau’n effeithiol gyda’n gwaith.”
Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi torri cyllidebau ysgolion gan 3% eleni.
‘Ymddiswyddiadau posib’
Yn llythyr Ffederasiwn Prifathrawon Cynradd ac Uwchradd Sir y Fflint, maen nhw’n dweud y gallai’r sefyllfa arwain at staff yn ymddiswyddo, dosbarthiadau mwy, a llai o deithiau a gweithgareddau allgyrsiol hefyd.
Mae’r rhestr hefyd yn cynnwys llai o gefnogaeth i ddisgyblion sydd angen cymorth ychwanegol i ddarllen neu o ran mathemateg, llai o gefnogaeth llesiant, a llai o gefnogaeth i ddisgyblion â thrafferthion ymddygiad ac i ddisgyblion sydd ag anghenion cymhleth.
Maen nhw hefyd yn rhybuddio y gallai arwain at lai o adnoddau i ddisgyblion, llai o ddewis o ran cyrsiau a chymwysterau, llai o waith cynnal a chadw ar ysgolion, a beirniadaethau negyddol gan gorff arolygu Estyn.
Er bod cyllideb ysgolion Sir y Fflint wedi codi 3.5% o ddoe (Ebrill 1), fydd hyn ddim yn ddigon i fynd i’r afael â’r pwysau ar ysgolion, medd y llythyr.
“Rydyn ni’n cydnabod bod cynnydd bychan wedi bod i gyllideb addysg Cymru ond mae chwyddiant, costau ynni a chostau staffio cynyddol wedi arwain at effaith sylweddol ar wariant llywodraeth leol a thoriadau, mewn termau real, i ysgolion.
“Rydyn ni’n credu y bydd rhaid i brifathrawon a llywodraethwyr wneud penderfyniadau rhwng cynnig y lefel bresennol o wasanaeth a chydbwyso’r llyfrau.
“Felly, mewn nifer o achosion bydd hi’n anochel na all ysgolion ddarparu a chynnal yr un lefel o gefnogaeth a gwasanaethau yn sgil diffyg sylweddol yn ein cyllid.”
Dywed y llythyr eu bod nhw’n ddiolchgar am gefnogaeth y Cyngor hefyd.
‘Rhaid cael cyllid digonol’
Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae pobol ifanc wedi bod yn dweud faint o effaith mae digwyddiadau tu hwnt i’w rheolaeth wedi’i chael ar eu hiechyd meddwl, yn ôl Simon Jones, Pennaeth Polisi ac Ymgyrchoedd Mind Cymru.
“O’r pandemig i’r argyfwng costau byw i wrthdaro rhyngwladol, mae’r holl bethau hyn wedi cael effaith sylweddol ar eu hiechyd meddwl,” meddai wrth golwg360.
“Mae pobol ifanc yn dweud bod gan ysgolion ran hollbwysig, yn darparu gofod diogel i nifer, lle maen nhw’n gallu trafod eu poenau, cael help a chysur.
“Dylai pobol ifanc allu teimlo’u bod nhw’n cael cefnogaeth gyda’u hiechyd meddwl; nid yn unig drwy wasanaethau ymarferol ond drwy eu hymwneud o ddydd i ddydd a’u perthnasau gyda staff a chyd-ddisgyblion.
“Mae’n hanfodol, felly, bod pob disgybl yn teimlo bod ganddyn nhw fynediad at rywun yn yr ysgol i siarad am eu hiechyd meddwl, a chael eu hatgyfeirio lle bo angen.
“Yng Nghymru, mae’n beth cadarnhaol bod pob ysgol yn gorfod cymryd agwedd ysgol gyfan tuag at iechyd meddwl, sy’n canolbwyntio ar ddarparu cefnogaeth uniongyrchol ac adeiladu’r diwylliant iawn i staff a disgyblion deimlo’u bod nhw’n cael cefnogaeth i drafod iechyd meddwl.
“Ond rhaid i hyn gael ei gefnogi gan gyllid digonol fel bod y polisïau a’r dyletswyddau hyn yn dod yn realiti i ddisgyblion ym mhob rhan o Gymru.”
‘Penderfyniadau anodd’
Wrth ymateb, dywed Cyngor Sir y Fflint eu bod nhw wedi gorfod gostwng eu cyllideb gan £110m ers 2008, yn sgil effaith cyni a thanariannu.
“Y Cyngor yw un o’r rhai sy’n cael y cyllid isaf yng Nghymru, 20fed allan o 22 awdurdod lleol o arian y pen, ac mae hyn, ynghyd â chynnydd mewn costau gwasanaethau a phwysau chwyddiannol eraill, wedi arwain at aelodau etholedig yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd i gyrraedd cyllideb gyfreithlon a chytbwys ar gyfer y flwyddyn ariannol 2024-25,” medd llythyr gan y Cyngor i ysgolion.
“Yn 2024-25, bydd cyllideb ysgolion yn codi 3.5%, yn dilyn cynnydd o 5% yn 2023/24.
“Er bod y Cyngor yn cydnabod na fydd hyn yn ddigon i fynd i’r afael â’r holl bwysau o ran costau ysgolion, cyllidebau ysgolion a’r gwasanaethau cymdeithasol ydy’r ddau faes sydd wedi derbyn y cynnydd ariannol mwyaf gan y Cyngor.”
Ychwanega’r ymateb eu bod nhw’n cydnabod y sefyllfa ariannol sy’n wynebu ysgolion, a’u bod nhw’n parhau i gefnogi prifathrawon a llywodraethwyr wrth iddyn nhw wneud penderfyniadau.
Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Gyngor Sir Ddinbych hefyd.