Mae cwmni sy’n darparu Addysg Bersonol a Chymdeithasol, ynghyd â Chrefydd, Gwerthoedd a Moeseg, yn hybu addysgu Addysg Bersonol a Chymdeithasol trwy gyfrwng y Gymraeg, yn dilyn cynllun peilot llwyddiannus.

Mae cwmni Jigsaw wedi cyfieithu eu cwricwlwm presennol i’r Gymraeg ar gyfer 73 o ysgolion a sefydliadau addysg Cymraeg a dwyieithog.

Yn ôl athrawon a disgyblion sydd wedi cael blas ar y ddarpariaeth, maen nhw’n teimlo’n nes at eu treftadaeth wrth fynd i’r afael â rhai materion cymhleth a phersonol trwy gyfrwng y Gymraeg.

“Mae Addysg Bersonol a Chymdeithasol yn bwnc eang sy’n ymgorffori themâu diwylliant, hunaniaeth, perthnasau ac iaith, ac mae angen i’r cyfan gael ei addysgu mewn modd sensitif a phriodol ar gyfer yr oedran dan sylw, ac mewn ffordd sy’n cyd-fynd â gofynion unigol y plentyn,” meddai Sanjeev Baga, Prif Weithredwr Grŵp Addysg Jigsaw.

“Rydym wedi gweld drosom ein hunain effaith darparu ein cwricwlwm Addysg Bersonol a Chymdeithasol trwy gyfrwng y Gymraeg ar fyfyrwyr, sydd wedi mwynhau’r cyfle i ddatblygu cysylltiad dyfnach rhwng eu treftadaeth ddiwylliannol ac iaith eu cyn-dadau.

“Mae llwyddiant ein cam cychwynnol i gyfieithu ein hadnoddau i’r Gymraeg wedi bod yn galonogol iawn, ac rydym yn edrych ymlaen at ehangu ein darpariaeth at y dyfodol.”

Diffyg adnoddau yn y gorffennol

Mae ysgolion Cymraeg yn enwedig wedi manteisio ar gyfieithu’r cwricwlwm.

Prin oedd yr adnoddau Addysg Bersonol a Chymdeithasol oedd ar gael cyn hyn o gymharu ag adnoddau Saesneg.

Mae’r cynllun peilot hwn wedi sicrhau bod rhagor o adnoddau bellach yn cael eu datblygu, ac mae hynny’n sicr o gael effaith ar darged Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, medd Jigsaw.

“Mae yna her wirioneddol wrth ddod o hyd i adnoddau o safon uchel sydd wedi’u cyfieithu’n dda, ond mae’r adnoddau mae Jigsaw wedi’u darparu wedi rhoi boddhad mawr i ni wrth ddarparu ein cwricwlwm Iechyd a Lles ar draws ein dosbarthiadau 3-19 oed,” meddai Amy Hughes, Pennaeth Cynorthwyol Ysgol Garth Olwg.

“Mae galluogi ein disgyblion i drafod materion pwysig yn eu bywydau trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol wrth dynnu sylw at statws a phwysigrwydd yr iaith a’u galluogi nhw i fyw pob agwedd ar eu bywydau yn yr ysgol trwy gyfrwng y Gymraeg.

“Mae holl staff Ysgol Garth Olwg eisiau dweud ‘Diolch’ am y cynnwys Cymraeg gwych sy’n ein helpu ni i gynnal y sgyrsiau pwysig hyn drwy gyfrwng ein hiaith hyfryd.”

Dull disgybl cyfan, ysgol gyfan

Caiff cwricwlwm Addysg Bersonol a Chymdeithasol Jigsaw ei gyflwyno gan ddefnyddio dull disgybl cyfan, ysgol gyfan.

Yn hytrach na neilltuo blociau unigol o wersi i Addysg Bersonol a Chymdeithasol, mae cwricwlwm Jigsaw yn galluogi ysgolion i ymgorffori’r gwersi a’r iaith sy’n cael eu dysgu ar draws pob agwedd ar yr ysgol, gan nodi anghenion penodol y plentyn, tra ei fod hefyd yn sicrhau bod gan bob aelod o staff yr adnoddau i drafod y deunydd y tu allan i’r ystafell ddosbarth.

Ar ôl cyflwyno’r cwricwlwm sydd wedi’i gyfieithu yn llwyddiannus, mae Jigsaw yn awyddus i gael ehangu’r ddarpariaeth ymhellach, fel bod adnoddau’n cyrraedd mwy o ysgolion yng Nghymru, gan atgyfnerthu hunaniaeth ddiwylliannol rhagor o blant.

Drwy blethu iaith a theimladau, maen nhw’n dweud y bydd yn helpu’r plant i wneud synnwyr o’r hyn maen nhw’n ei feddwl a’i deimlo.