Morgan Owen
Mae ymosodiad diweddaraf The Tab yn sarhad nid yn unig i’r iaith Gymraeg ond i ni fel cenedl, yn ôl Morgan Owen
Ni all neb wadu fod y fath beth â chymuned Gymraeg yn bodoli ac mai rhywbeth real, diriaethol yw hi, er mor niwlog y gall y cysyniad haniaethol o ‘gymuned’ fod. A’i fynegi’n wahanol: beth sy’n nodweddu ymwneud y Cymry â’i gilydd? Nid eu harferion fel y cyfryw, nac eu gwehelyth na hyd yn oed eu lleoliad daearyddol. Yr un peth sydd yn clymu’r Cymry ynghyd ac yn eu huno fel ag i’w gwneud yn grŵp cydlynol yw’r iaith Gymraeg. Onid yw’r ymadrodd ‘cymuned Gymraeg’ yn nodi’r arwahanrwydd hwn, gan wahaniaethu rhwng ‘Cymreig’ a ‘Chymraeg’?
Ond, nid yw sail ieithyddol y gymuned Gymraeg yn ei gwneud yn llai o gymuned, dweder, na chymuned sy’n seiliedig ar ryw nodwedd arall, boed hynny’n hil neu ba beth bynnag. Fel mae’n digwydd, nid yw hil yn bodoli fel categori biolegol diriaethol, go iawn, ac iaith o’r herwydd yw’r sail sicraf a mwyaf diriaethol i gymuned. Dyma a welir ledled y byd, cymunedau wedi eu seilio ar iaith aelodau’r gymuned.
A chydnabod hynny, rhaid yw casglu felly mai’r iaith Gymraeg yw pennaf nodwedd y Cymry ac arwyddnod – onid sail bodolaeth― y gymuned Gymraeg. O ganlyniad, mae ymosodiad ar yr iaith Gymraeg yn ymosodiad nid yn unig ar y gymuned Gymraeg ei hun, ond hefyd ei bodolaeth. Ffurfir cymuned gan bobl, ac mae gwadu bodolaeth cymuned neu alw am ei diflaniad yn gyfystyr â galw am i’r bobl hynny ddiflannu. O’r un carthbwll syniadaethol y daw’r meddylfryd sydd yn arwain at hil-laddiad.
Yr un hen stori
Dyma ni felly yn dychwelyd at yr un sefyllfa adwythig a gawsom ein hunain ynddi gwta wythnos yn ôl, gyda’r Tab yn cyhoeddi erthygl wrth-Gymraeg unwaith yn rhagor. Ac yn hynny o beth, nid ydym yn sôn am erthygl y gellir ei dehongli’n wrth-Gymraeg ychwaith; dywed yr awdur y dylai’r iaith Gymraeg gael ei ‘bwrw i ebargofiant’. Ceir rhagfarn echblyg, agored.
Ni allaf lai na synnu fod dweud y fath beth yn dderbyniol yn y Gymru sydd ohoni― derbyniol am na fydd ddim yn newid o gwbl, a bydd gan unrhyw un sy’n dymuno dweud rhywbeth tebyg rhwydd hynt i’w wneud. Rhywsut, nid oes dim yn ôl y gyfraith fel ag y mae i rwystro rhywun rhag dweud y cyfryw beth am y Cymry, neu hyd y gwn i o leiaf.
Nid ydym ni Gymry am ‘fwrw i ebargofiant’ ein hiaith, sydd yn sail ein cymuned ac yn gyfrwng ein hanes a’n llên a phen-conglfaen ein hunaniaeth. Rhaid gofyn felly: a ddylai siaradwyr Cymraeg gael eu hamddiffyn rhag ymosodiadau fel yr un diweddaraf gan y gyfraith? Nid oes unrhyw amheuaeth o gwbl y byddai rhywun yn cael ei arestio a’i ddedfrydu am hyrwyddo casineb yn erbyn y lleiafrif pe dwedai y dylai cymuned groenddu neu Islamaidd gael ei bwrw i ebargofiant.
Yn hyn o beth, beth sydd yn wahanol am ddweud y dylai’r gymuned Gymraeg ddiflannu? I ategu difrifoldeb yr alwad hon, y Gymraeg yw iaith gynhenid Gymru. Rydym yn ymateb i alwad i ni ddiflannu o’n gwlad ein hunain. Os nad oedd y rhagfarn hon yn ein herbyn mor gyfarwydd i ni, diau y byddem yn ffromi’n wyllt.
Herio’r meddylfryd ‘israddol’
Nid yw rhyddid i siarad ein hiaith yn ddigon. Ni ddylem orfod cyfiawnhau ein bodolaeth o hyd. Effaith grynhoöl y rhagfarnau hyn yw ein cyflyru i ymagweddu’n ddihyder ac israddol, ac yn wir, credu ein bod yn israddol. Ni ddylem dderbyn y fath gamdriniaeth oddi ar neb.
Dylai’r gyfraith gadarnhau ein hawl i fodoli fel cymuned― cymuned gynhenid Cymru. Nid cul mo hynny; derbynnir aelodau newydd i’r gymuned Gymraeg o hyd. Mae’n gynhwysol odiaeth.
Mae galw am i’r Gymraeg ddiflannu yn galw am i’r gymuned Gymraeg ddiflannu sydd yn galw am i’r bobl a ffurfia’r gymuned honno ddiflannu. Nid ydym am ddiflannu.
Mae Morgan Owen yn astudio’r Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd.