Mae ffoaduriaid, nifer ohonyn nhw’n cario babanod a phlant yn eu breichiau, wedi gwthio dros ffin o fariau metel a rhwystrau’r heddlu, er mwyn gwneud eu ffordd o Slofenia i Awstria.
Gwelwyd nifer o bobol yn syrthio i’r ddaear yng nghanol yr anhrefn ger y gwersyll ffoaduriaid yn Sentilj.
Bellach, mae 4,000 o bobol sydd wedi cyrraedd ffin Awstria o wledydd sydd wedi’u chwalu gan ryfel a newyn yn y Dwyrain Canol, Asia ac Affrica, yn aros i’r swyddogion yno weinyddu eu cais am loches.
Ddoe, roedd miloedd o ffoaduriaid wedi gwthio eu ffordd i mewn i Awstria, wedi aros oriau i gael croesi’n drefnus.
Mae bron i 105,000 o bobol wedi cyrraedd Slofenia mewn llai na phythefnos wedi i Hwngari gau’r ffin rhyngddi hi a Croatia.
Mae Slofenia ac Awstria wedi trafod y posibilrwydd o godi ffensys ar hyd eu ffiniau, er mwyn ceisio rheoli’r menlifiad o ffoaduriaid.