Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi rhyddhau ychydig mwy o wybodaeth am ddamwain ffordd angheuol ddigwyddodd ym mhentre’ Tal-y-bont, Sir Conwy, neithiwr.
Fe ddaeth cadarnhad fod “tri oedolyn lleol” wedi marw yn y digwyddiad, a bod gwraig arall yn ei 50au hwyr wedi’i chludo i’r ysbyty yn diodde’ o anafiadau difrifol, ond heb enwi neb eto.
“Am oddeutu 8.45yh neithiwr, fe gafwyd gwrthdrawiad rhwng cerbyd Ford Fiesta gwyrdd a Peugeot 208 ar ffordd y B5106 ger Tal-y-Bont, Conwy,” meddai’r Prif Arolygydd Martin Best.
“Fe gafodd y ddau a oedd yn y car Fiesta eu lladd yn y gwrthdrawiad, gyda’r person yn y Peugeot ym marw yn y fan a’r lle. Mae’r ddynes a oedd yn teithio yn sedd flaen y Peugeot wedi cael ei chludo i’r ysbyty yn dioddef anafiadau a all beryglu ei bywyd.”
Mae swyddogion cyswllt teulu yr Heddlu wedi eu hanfon i gefnogi’r teuluoedd yn eu profedigaeth, ac mae Heddlu Gogledd Cymru hefyd yn apelio am wybodaeth bellach gan y cyhoedd am natur y ddamwain.