Mae Heddlu De Cymru yn apelio am wybodaeth yn dilyn gwrthdrawiad difrifol ar yr M4.

Digwyddodd y ddamwain rhwng Ford Ka arian â Ford Fusion tua 04:40 y bore ddydd Iau (Awst 6) ger cyffordd 35, Pencoed.

Cafodd tri person, oedd yn teithio yn y Ford Ka, eu cludo i ysbyty cyfagos gydag anafiadau difrifol.

Mae Heddlu De Cymru eisiau siarad ag unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad, a stopiodd i ddarparu cymorth, neu unrhyw un a allai fod wedi gweld y Ford Ka yn cael ei yrru cyn y gwrthdrawiad.

Mae swyddogion hefyd eisiau siarad ag unrhyw un a allai fod wedi dal y digwyddiad ar dash-cam.

Mae’r M4 tua’r dwyrain yn parhau i fod ar gau wrth i ymchwiliadau gael eu cynnal.