Mae cyngor dinas Preston yn Sir Gaerhirfryn yn cynghori trigolion y ddinas i osgoi cael ymwelwyr yn eu tai oherwydd pryder am gynnydd mewn achosion coronafeirws yn lleol.

Er nad oes cyfyngiadau swyddogol fel sydd ym Manceinion Fwyaf a rhannau o orllewin Swydd Efrog, mae’r cyngor yn rhybuddio mai dyma allai’r cam nesaf fod.

“Fe wyddon ni fod y cyfraddau’n codi ac wedi codi dros yr wythnos ddiwethaf lle gallen ni fod yn wynebu ymyrraeth gan y llywodraeth,” meddai prif weithredwr Cyngor Dinas Preston, Adrian Phillips.

“Rydym yn gweithio gyda’n cymunedau i sicrhau ein bod ni’n cael y negeseuon allweddol allan.”

Mae’r cyngor hefyd yn cynghori trigolion i wisgo mygydau bob amser a mynd am brofion, hyd yn oed os nad ydyn nhw ond yn profi symptomau ysgafn.