Mae Banc Lloegr wedi cynnig rhagolwg “fwy optimistaidd” nag o’r blaen am effaith coronafeirws ar economi’r Deyrnas Unedig.

Ym mis Mai mi rybuddiodd y banc y gallai GDP (cynnyrch domestig gros) gwympo 14% eleni, ond bellach mae’n darogan mai 9.5% bydd y ffigur.

Er hynny, mi rybuddiodd na fydd yr economi yn dychwelyd i sut oedd hi tan “ddiwedd 2021”. Yn y gorffennol roedd wedi darogan y byddai’r economi wedi’i adfer erbyn canol 2021.

Mi grebachodd economi’r Deyrnas Unedig gan dros 20% yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn hon.

Cyhoeddiad “positif”

Daeth y rhagolygon newydd wrth i’r banc gyhoeddi y byddan nhw’n cadw cyfraddau llog yn 0.1% – cam a gafodd effaith ar werth y bunt.

“Roedd Banc Lloegr yn llawer mwy optimistaidd na’r disgwyl am yr adferiad,” meddai Fiona Cincotta, dadansoddwr cyllid o Gain Capital (cwmni cyfnewidfa dramor).

“Mae’r rhagolygon am dwf yn fwy positif bellach [ac mae’r cyfan] wedi arwain at sefyllfa lle mae sterling yn gyfwerth â $1.32.”

Mae’r banc hefyd wedi dweud ei fod disgwyl i ddiweithdra gynyddu ar ddiwedd y flwyddyn, cyn cwympo yn raddol ar ddechrau 2021.