“Mae Tŷ’r Arglwyddi yn bwdr, mae’n gwaethygu, ac mae pleidleiswyr wedi cael llond bol.”

Dyna mae Darren Hughes, Prif Weithredwr y Gymdeithas Diwygio Etholiadol (ERS), wedi ei ddweud wrth ymateb i lu o benodiadau dadleuol diweddar.

Daeth i’r amlwg yr wythnos ddiwetha’ y byddai 38 o bobol yn cael eu hanrhydeddu yn arglwyddi, ac mae’r mater wedi codi tipyn o stŵr.

Mae cryn ddadlau bod yna ormod o arglwyddi yn yr ail siambr yn barod, ac mae gan dipyn o’r darpar-arglwyddi gysylltiadau agos â’r Prif Weinidog, Boris Johnson.

“Rhaid newid y clwb preifat yma yn llwyr fel bod gan bleidleiswyr y gair olaf ynghylch pwy sydd yn eistedd yn yr ail siambr,” meddai Darren Hughes.

“Mae angen dŷ uwch arnom sydd yn cael ei ethol yn deg ac sydd yn adlewyrchu Prydain heddiw go iawn. Ar hyn o bryd mae Tŷ’r Arglwyddi yn ffars.

“Pan mae ffydd yng ngwleidyddiaeth yn diflannu’n llwyr, rhaid i’r Llywodraeth wneud y peth iawn a delio â’r llygredd.”

Cam dadleuol

Mae disgwyl y bydd dros 800 o arglwyddi yn yr ail siambr yn sgil y cam yma, cannoedd yn fwy nag sydd yn Nhŷ’r Cyffredin.

Ymhlith y rheiny sydd ar y rhestr arglwyddi newydd mae brawd y Prif Weinidog, Jo Johnson, a’r miliynydd Rwsiaidd a pherchennog papurau newydd, Evgeny Lebedev.

Mae’r Darren Hughes hefyd yn beirniadu’r ffaith bod “cyfeillion y Prif Weinidog ym maes newyddiaduraeth wedi’i gwobrwyo” a bod diffyg cynrychiolaeth “arwyr meddygol”.

Mae’r ERS yn ymgyrchu tros droi Tŷ’r Arglwyddi yn siambr etholedig.