Mae cynrychiolwyr gwleidyddol yng Ngwynedd wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi i “niferoedd mwy nag erioed” ymweld â’r sir y penwythnos diwethaf.

Mae’r gwleidyddion yn rhybuddio bod y “niferoedd sy’n tyrru yma yn fwy nag y medrir ymdrin â hwy, sy’n arwain at sefyllfa tu hwnt i allu’r awdurdodau i gadw trefn”.

Yn ôl y llythyr mae’r niferoedd yma yn gwneud hi’n amhosib dilyn rheoliadau ymbellhau cymdeithasol ac yn cynyddu’r risg o ymlediad y Coronafeirws.

‘Digwyddiad torfol heb reolaeth’

Mae llofnodwyr y llythyr wedi disgrifio’r golygfeydd yn y sir fel “safle i ddigwyddiad torfol heb reolaeth ohono”.

Mae’r sefyllfa yn destun “pryder sylweddol i ni o ran iechyd cyhoeddus”, meddai’r llythyr.

Gan gyfeirio at Bermo, Aberdyfi, Morfa Bychan ac Abersoch fel enghreifftiau mae’r llofnodwyr yn dweud bod y “niferoedd mwy nag erioed” o ymwelwyr hefyd wedi arwain at “barcio anghyfreithlon.”

“Yr hyn sy’n achosi’r mwyaf o bryder yw bod cymaint o bobl yn cerdded yn y dref fel nad oedd modd cadw at y rheol pellter cymdeithasol.

“Yn ychwanegol, fel y gellir ddychmygu, roedd y ddarpariaeth toiledau preifat a chyhoeddus yn llwyr annigonol i ateb yr angen.”

Mae’r llythyr yn gofyn i Mark Drakeford ystyried pa fesurau y gallai eu cyflwyno er mwyn sicrhau nad yw’r un peth yn digwydd eto yn ystod mis Awst.

Mae’r llythyr wedi ei lofnodi gan sawl aelod o Blaid Cymru:

  • Hywel Williams a Liz Saville Roberts, ASau Arfon a Dwyfor Meirionnydd,
  • Sian Gwenllian a Helen Mary Jones, Aelodau Arfon a rhanbarth y Canolbarth a’r Gorllewin yn Senedd Cymru
  • Dyfrig Siencyn a Dafydd Meurig, Arweinydd a Dirprwy Arweinydd Cyngor Gwynedd