Mae’r gwefannau cymdeithasol Facebook a Twitter wedi ymyrryd ar ôl i’r Arlywydd Donald Trump rannu gwybodaeth anghywir am y coronafeirws.
Honnodd yr Arlywydd fod gan blant imiwnedd i’r coronafeirws.
Wrth ddileu’r post – clip fideo o gyfweliad Fox News – dywedodd Facebook fod y “fideo yn cynnwys honiadau anwir bod grŵp o bobol ag imiwnedd i Covi-19 – mae hyn yn torri ein polisïau ynghylch camwybodaeth niweidiol am Covid”.
Yn ddiweddarach fe wnaeth Twitter rewi un o gyfrifon ymgyrch Trump oedd wedi rhannu’r un clip fideo.
Mewn datganiad dywedodd Twitter bod y neges wedi torri ei reolau yn erbyn gwybodaeth anghywir am Covid.
Pan fydd rhywun yn torri rheolau ar Twitter, mae’r wefan gymdeithasol yn gofyn i ddefnyddwyr dynnu’r neges a’u gwahardd rhag rhannu unrhyw beth arall nes iddynt wneud.
‘Plant yn llai tebygol o gael eu heintio’
Er bod astudiaethau yn awgrymu, ond nid ydynt yn profi, bod plant yn llai tebygol o gael eu heintio nag oedolion mae cyngor iechyd cyhoeddus yr Unol Daleithiau yn egluro’n glir nad oes gan blant imiwnedd i Covid-19.
Yng Nghymru cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddechrau’r wythnos nad oes angen i blant dan 11 oed gadw 2m o bellter oddi wrth ei gilydd nac oddi wrth oedolion.
Mae’r dewis yma yn unol â’r dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf am gyfraddau trosglwyddo is ymhlith plant.