Yr wythnos hon mae Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu y Senedd am gyhoeddi sut y bydd yn archwilio effaith pandemig y coronafeirws ar y Gymraeg.
Mae’r Pwyllgor am sicrhau na fydd cyllid Llywodraeth Cymru yn cael ei arallgyfeirio i’r fath raddau nes y bydd yn effeithio ar ei tharged o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Mae’r Pwyllgor yn gwahodd barn yn ysgrifenedig am y sefyllfa yn ogystal â chasglu tystiolaeth lafar o fis Medi ymlaen.
Bydd hyn, yn ôl y Pwyllgor yn rhoi darlun llawnach o effaith yr argyfwng ar ddigwyddiadau’r haf fel yr Eisteddfod Genedlaethol.
Mae’r Pwyllgor eisoes wedi derbyn tystiolaeth ysgrifenedig gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, Urdd Gobaith Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg.
Effaith
“Rydym wedi gweld y pandemig hwn yn effeithio ar bob agwedd o fywyd ein cenedl, ac mae hynny’n cynnwys cyfleoedd i ddysgu, gweithio a chymdeithasu yn Gymraeg, i bobl o bob oed,” meddai Helen Mary Jones AS, Cadeirydd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu.
“Mae ein pwyllgor am wybod faint o effaith y mae Covid wedi’i chael ar y Gymraeg dros y misoedd diwethaf a sut y gallai hynny effeithio ar ymdrechion i gyrraedd targed y Llywodraeth o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
“Fel arfer, yn ystod yr haf bydd pobl ledled Cymru yn dod at ei gilydd i fwynhau wythnos o’r gorau o ddiwylliant Cymraeg yn yr Eisteddfod Genedlaethol – mae hefyd yn gyfle gwerthfawr i’r rhai sy’n dysgu i ddefnyddio eu Cymraeg. Felly, byddwn yn edrych ar yr effaith ar yr Eisteddfod a’r newid angenrheidiol eleni i ŵyl ar-lein.”