Wrth nodi tri chwarter canrif union ers cyflafan Hiroshima ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd, mae Maer y ddinas wedi galw am fwy o ymrwymiad byd-eang i ddiarfogi niwclear.

Cafodd 140,000 o bobl, gan gynnwys llawer o blant, pan ollyngodd yr Unol Daleithiau ei bom atomig cyntaf yn Hiroshima ar Awst 6, 1945, ddinistrio’r ddinas yn llwyr.

Gollyngodd America ail fom dridiau’n ddiweddarach yn Nagasaki, gan ladd 70,000 yn rhagor, cyn i Japan ildio ar Awst 15.

Cafodd munud o dawelwch ei gynnal yn Hiroshima am 8.15 y bore yma, gyda thorf a oedd yn llai na’r arfer oherwydd pryderon am y coronafeirws. Yn ei plith roedd rhai a oroesodd yr ymosodiad, sydd bellach dros 83 oed ar gyfartaledd.

Pwysodd y Maer, Kazumi Matsui, ar arweinwyr y byd i ymweld â Hiroshima i weld realiti bomio atomig.

“Fel yr unig genedl i ddioddef ymosodiad niwclear, rhaid i Japan berswadio pobl y byd i uno yn ysbryd Hiroshima,” meddai.