Mae Sefydliad Brenhinol y Badau Achub, yr RNLI, wedi rhybuddio teuluoedd sy’n mynd i lan y môr i fod yn ymwybodol o’r peryglon posib.

Daw’r cyhoeddiad wrth i Wledydd Prydain baratoi ar gyfer tywydd poeth iawn dros y dyddiau nesaf.

Mae’r Swyddfa Dywydd yn rhagweld bydd y tymheredd yn cyrraedd 37C erbyn diwedd yr wythnos.

Yn ôl y Swyddfa Dywydd De Ddwyrain Lloegr fydd yn gweld y tymheredd uchaf, ond mae disgwyl i ardaloedd eraill hefyd gyrraedd dros 30C.

Yr wythnos diwethaf cofnodwyd y tymheredd uchaf eleni gan y Swyddfa Dywydd: 37.8C ger Maes Awyr Heathrow.

Eglurodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dywydd fod hi’n annhebygol y byddai’r tymheredd dros y dyddiau nesaf yn uwch na hyn, ond y byddai rhannau helaeth o Weledydd Prydain yn gweld “pedwar neu hyd yn oed bum diwrnod yn olynol o dymheredd poeth”.

‘Anarferol’

“Mae’n eithaf anarferol cael dau ddigwyddiad yn olynol fel hyn o fewn wythnos i’w gilydd”, meddai’r llefarydd.

“Mae’n ganlyniad i wyntoedd deheuol yn symud o Ewrop a rhannau o ogledd Affrica, mae hyn yn gwthio’r tymereddau i fyny,” meddai.

Mae disgwyl i’r tywydd poeth bara tan o leiaf ddydd Sul.

Rhybudd y Badau Achub

Mae Gareth Morrison, Pennaeth Diogelwch Dŵr y Badau Achub wedi rhybuddio i bobol fod yn ofalus wrth ymweld â’r arfordir, “yn enwedig i’r rheini sy’n ddiarth i amgylchedd a allai fod yn ymweld â thraeth penodol am y tro cyntaf.”

“Mae ein harfordir yn lle gwych i bobol dreulio amser gyda’i gilydd fel teulu, yn enwedig pan mae’r haul allan ac mae’n boeth”, meddai Gareth Morrison.

“Rydyn ni’n cynghori pawb sy’n cynllunio ymweliad â thraeth neu’r arfordir i ddilyn y cyngor ar ddiogelwch ar y traeth.”