Mae ci heddlu wedi profi ei werth ar ei ‘shifft’ gyntaf – trwy ddod o hyd i fam a phlentyn a oedd ar goll

Fe wnaeth Max, un o gwn Heddlu Dyfed Powys, sydd newydd gael ei drwydded gyntaf, ddarganfod y ddau ar ymyl ceunant mewn rhan anghysbell o Bowys ddydd Sadwrn.

Roedd y fam a’i merch flwydd oed ar goll wedi ers dau ddiwrnod.

Dan arweiniad y ci heddlu daeth yr Heddwas Peter Lloyd o hyd i’r ddynes yn galw am gymorth tua  am 1:30 y prynhawn.

“Doedd neb wedi gweld na siarad â hi ers dau ddiwrnod, roedd hyn allan o gymeriad, ac nid oedd ei ffôn yn gweithio, felly yn naturiol roedd y pryder am ei diogelwch,” meddai’r Arolygydd Jonathan Rees-Jones

Eglurodd fod car y ddynes wedi ei ddarganfod ar ffordd fynyddig yn gynharach.

Ar ôl awr a hanner o chwilio gan yr Heddlu a Thîm Achub Mynydd Bannau Brycheiniog, daethpwyd o hyd i’r fam a’i phlentyn.

“Roeddent yn ddiogel, ond yn oer,” ychwanegodd Jonathan Rees-Jones.

“Roedd yn ymdrech tîm cydlynol a phenderfynol gan bawb.

“Ein blaenoriaeth oedd sicrhau diogelwch y fam a’r babi a oedd mewn perygl sylweddol o niwed.

“Rhaid i mi roi sylw arbennig i PC Pete Lloyd a Max, a oedd ar eu diwrnod cyntaf ers cwblhau eu hyfforddiant gyda’i gilydd.”