Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi amlinellu’r camau y bydd yn eu cymryd i wella ansawdd aer y wlad o dan ei Chynllun Aer Glân i Gymru: Awyr Iach, Cymru Iach.

Ansawdd aer gwael yw’r perygl amgylcheddol mwyaf i iechyd y cyhoedd ac mae hefyd yn effeithio ar fioamrywiaeth a’r amgylchedd naturiol.

Yng Nghymru, mae ansawdd aer gwael yn cyfrannu at leihad mewn disgwyliad oes sy’n cyfateb i rhwng 1,000 a 1,400 o farwolaethau y flwyddyn. Yn aml, mae’n cael effaith amlwg ar y rhai mwyaf bregus, fel yr ifanc iawn neu’r oedrannus iawn, a’r rhai sydd â chyflyrau anadlol a chardiofasgwlaidd.

Bydd y mesurau a amlinellir yn y Cynllun yn gweithio ochr yn ochr â chynlluniau presennol i leihau’r llygredd aer y mae’r cyhoedd yn dod i gysylltiad ag ef.

Bydd y camau hyn yn lleihau llygredd aer, risgiau iechyd ac anghydraddoldeb er mwyn gwella iechyd y cyhoedd.

Y Cynllun

Mae’r Cynllun yn gysylltiedig â chynlluniau sy’n annog mwy o bobl i gerdded, seiclo neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, gan ategu’r Ddeddf Teithio Llesol a Menter Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.

Mae rhai o’r mesurau yn cynnwys:

  • buddsoddiad sylweddol yn y seilwaith teithio llesol, gan wella gwasanaethau rheilffyrdd a chefnogi datgarboneiddio drwy ein nod o sicrhau fflyd o dacsis a bysiau heb unrhyw allyriadau pibellau egsôst erbyn 2028.
  • gweithredu ein strategaeth gwefru cerbydau trydan
  • adolygu’r pwerau sydd gan awdurdodau lleol i fynd i’r afael ag allyriadau o losgi domestig.
  • ymchwilio i sut y mae coelcerthi a thân gwyllt yn cyfrannu at lefelau allyriadau niweidiol
  • gwella’r broses o fonitro ansawdd aer
  • plannu coed a gwrychoedd
  • cryfhau’r rheolaeth ar allyriadau mewn amaethyddiaeth.
  • cynigion ar gyfer Deddf Aer Glân newydd i Gymru i wella deddfwriaeth bresennol a chyflwyno pwerau newydd i fynd i’r afael â llygredd aer ymhellach.

Cydweithio a dechrau arferion newydd

Lansiodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig y cynllun newydd gydag ymweliad â Heol y Castell yng Nghaerdydd, lle mae Cyngor Caerdydd yn cymryd camau brys i fynd i’r afael â lefelau uchel o allyriadau nitrogen deuocsid.

“Rwy’n falch iawn o gyhoeddi lansiad ein Cynllun Aer Glân, sy’n nodi sut y byddwn yn ceisio gwella ansawdd aer ledled Cymru, a mynd i’r afael â’r problemau hynny a achosir gan lygredd aer, dros y 10 mlynedd nesaf” meddai Lesley Griffiths.

“Mae’r nodau a amlinellir yn y Cynllun yno i ddiogelu’r rhai mwyaf bregus, ond bydd gwella ein hansawdd aer yn genedlaethol o fudd i bawb yng Nghymru, ac mae’n rhywbeth y dylai pob un ohonom fod eisiau ac y dylem weithio tuag ato. Ond er mwyn cyflawni hynny, mae’n rhaid i ni weithredu yn awr.

“Mae llawer o’r gwaith hwnnw eisoes ar y gweill – er gwaethaf y pandemig diweddar, rydym wedi gallu helpu awdurdodau lleol i ddechrau gweithio ar gynlluniau i wella ansawdd aer ledled Cymru, gyda’r newidiadau i Heol y Castell yn un enghraifft.

“Gwyddom fod pobl ledled Cymru wedi ymateb i’r cyfyngiadau hynny a osodwyd oherwydd pandemig Covid-19 ac wedi newid y ffordd maen nhw’n gwneud pethau. Maen nhw wedi dechrau arferion newydd – gan gynnwys lleihau eu dibyniaeth ar geir, a gwneud mwy yn eu hardaloedd lleol, yn hytrach na theimlo bod angen teithio pellteroedd maith.”