Ar ei ymweliad cyntaf â Chymru fel arweinydd y Blaid Lafur, bydd Keir Starmer yn ymuno â’r Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, i alw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i weithredu i achub swyddi yng Nghymru.

Yn sgîl colledion swyddi  a gyhoeddwyd yn Airbus ym Mrychdyn, Sir y Fflint, bydd Keir Starmer yn ymweld â chyfleuster ymchwil a gweithgynhyrchu awyrofod a gefnogir gan Lywodraeth Lafur Cymru yno heddiw, ochr yn ochr â Mark Drakeford a Changhellor Llafur yr wrthblaid, Anneliese Dodds.

Gan ddisgrifio’r foment fel “prawf mawr o ymrwymiad y Blaid Geidwadol i Gymru”, bydd Starmer yn galw ar Geidwadwyr Cymru i roi pwysau ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig am gynllun ffyrlo diwygiedig sy’n cefnogi swyddi yn y sectorau sy’n dioddef waethaf.

Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi cyhoeddi pecyn gwerth £ 1.7 bn i gefnogi busnesau sy’n ceisio dal pen llinyn ynghyd yng Nghymru,  ond gyda’r cynllun ffyrlo dan reolaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig  o dan arweiniad y Ceidwadwyr, mae Llafur yn galw am weithredu trawsbleidiol i amddiffyn swyddi yng Nghymru.

Colli swyddi

Daw ymweliad Keir Starmer ac Anneliese Dodds yn sgil colli 1,700 o swyddi a gyhoeddwyd yn Airbus UK, y bydd 84% ohonynt ym Mrychdyn.

“Mae Llafur yn brwydro am swyddi ar hyd a lled y wlad,” meddai Keir Starmer, arweinydd y Blaid Lafur.

“Mae’r ffaith bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig  yn tynnu’n ôl y cynllun ffyrlo yn gyffredinol yn gamgymeriad hanesyddol sy’n bygwth swyddi yng Nghymru.

“Mae’r colledion swyddi dinistriol a gyhoeddwyd yn Airbus yn dangos cymaint sydd yn y fantol. Rydym yn wynebu argyfwng swyddi ar raddfa nas gwelwyd am genedlaethau. Ond nid yw’n rhy hwyr i’r Llywodraeth weithredu.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud llawer iawn i gefnogi busnesau sy’n ei chael hi’n anodd, ond dim ond o San Steffan y daw’r camau sydd angen eu cymryd ar gynllun ffyrlo. Rhaid i Aelodau Seneddol Ceidwadol Cymru hefyd chwarae eu rhan i gael eu Canghellor i newid cwrs.

“Mae hyn yn brawf mawr ar ymrwymiad y Blaid Geidwadol i ogledd Cymru. ”

Dywedodd Mark Drakeford, arweinydd Llafur Cymru a Prif Weinidog Cymru fod Llywodraeth Lafur Cymru wedi darparu’r pecyn cymorth mwyaf hael a chynhwysfawr i fusnesau yn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig.

“Byddwn yn mynd ati i wneud popeth a allwn i amddiffyn swyddi Cymru,” meddai.

“Mae coronafeirws yn dal gyda ni a bydd yn parhau i effeithio ar ein heconomi yng Nghymru am gyfnod hir i ddod.

“Mae’r mwyafrif llethol o bobl yng Nghymru wedi dilyn y rheolau ac wedi gwneud aberth sylweddol i’n helpu ni i gael coronafeirws dan reolaeth. Rwy’n credu y bydden nhw’n disgwyl i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gefnogi’r economi a sicrhau bod gan bobl swyddi i fynd yn ôl iddyn nhw. “