Crabb a Carwyn yn cael sylw gan Hefin Jones yr wythnos hon (llun: PA)
Hefin Jones sydd wedi bod yn cymryd ei gip unigryw ar ambell un o ddigwyddiadau mwyaf cofiadwy’r dyddiau diwethaf …

Cleddyfau i’r Gad

‘The World won’t wait for Wales’ dramateiddiodd Stephen Crabb wedi wythnos o baldaruo di-baid am y ffraeo rhwng Ein Hymerawdwr ac Ein Harweinydd Carwyn Jones gan sylwebwyr oedd heb syniad yn y byd pwy oedd ar dir cadarn gan nad oedd y ddogfen yn gyhoeddus. Ond daeth yr awr i gyhoeddi, a bu gweld fod Crabb yn ceisio cuddio’i ddicheldra dan dîn lechwraidd yng nghrombil y ddogfen gan achosi Carwyn ‘Glyndŵr’ Jones i yngan y gair gwaharddedig ‘English’.

Dim ocsigen i Crabb

Nôl a ni i 2007 ac erthygl gan Stephen yn Conservative Home (‘The Home of Conservatism’) lle blwmpiodd a phlaenodd ‘Over the last ten years my opposition to devolution in Scotland and Wales has been driven by a belief that, far from satisfying the nationalist tendencies in these countries, devolution would foster and feed an increasingly separatist and socialist discourse in which sensible Conservative policies that could promote national cohesion, economic liberalism and smaller government would find little oxygen for survival’. Dim rhyfedd i Dai Cam ei benodi.

Geirda …

Gwefan yw Glassdoor.com sy’n galluogi i bobl frolio neu farnu cwmnïau. A beth sydd gan bobl i’w ddweud am Accelovance sydd wedi dod yr holl ffordd o’r Unol Daleithiau i ymsefydlu yn Abertawe ar arian Llywodraeth Cymru? ‘Mi rois bopeth i’r cwmni a ches affliw o ddim yn ôl oni bai am atgofion ofnadwy o fod mewn lle na sy’n ffit i gŵn’ oedd argraff liwgar un.

… salwch …

Er nad yw Carwyn nac Edwina’n fodlon datgelu faint o arian maent wedi ei roi i Accelovance (a pham ddylent – eu harian nhw ydi o), gallwn ond gobeithio y byddent yn ei ddefnyddio i ddechrau talu eu staff yn iawn. ‘Cewch eich gweithio nes eich bod yn sâl’ medd cyn-weithiwr hapus arall, ‘Peidiwch byth a chymryd swydd barhaol yma, mi fyddech ar lai na’r isafswm cyflog mewn dim o dro wrth weithio 80 awr yr wythnos am ddim tal ychwanegol’.

… a gwrthryfel

Adeg dda i gofio honiad Edwina Hart o ’70 swydd sgiliau uchel a chyflogau mawr’ am eu buddsoddiad. Gellid parhau â rhyw ddau ddwsin arall o’r un anian, ond mae’r pwynt wedi ei wneud bellach. Oreit ta, un bach arall… ‘Tîm Rheoli anfoesol ac afreolus. Rwyf wedi bod yma bedwar mis ac rwy mor flin mod i wedi cymryd y swydd’, medd un cwynfanllyd, a’r nesa (yn yr iaith fain) yn nodi `I pray every night that your former employee/slaves rise up and file a class action suit for all of the unpaid hours and unpaid expenses. You are nothing but a pack of thieves’. Gwaith da, eto, Edwina.

Y dihirod democrataidd

Wedi etholiadau cyffredinol Portiwgal lle bu i glymblaid o bleidiau sosialaidd a gwrth-lymder ennill 50.7% o’r bleidlais dyma Arlywydd Portiwgal benderfynu na fyddent yn cael dod i rym. Mor syml â hynny. `Mae’n ddyletswydd arnaf o fewn fy mhwerau cyfansoddiadol i wneud popeth posibl i atal negeseuon anffodus drosglwyddo i’r sefydliadau ariannol, buddsoddwyr a marchnadoedd’ ffasgeiddiodd Anibal Cavaco Silva. Tra bod arian rhyngwladol yn draddodiadol wedi tanseilio democratiaeth trwy dalu’r cyfryngau a’r gwleidyddion mae’n ymddangos nad oes angen trafferthu â’r darn yna bellach. Fel yr ydych wedi sylwi debyg, mae newyddion Lloegr yn benwan ar y gwarth.

Chwyldro!

1.7% o bleidleisiau y mae’r Arglwydd Andrew Lloyd Webber, o fyd y nadu theatrig, wedi llwyddo eu cyflawni yn Nhŷ’r Arglwyddi. Ond fe hedfanodd yr holl ffordd o Efrog newydd yn arbennig i gefnogi’r llywodraeth wrth iddynt banicio eu bod am wynebu gwrthsafiad i amddiffyn y tlawd gan yr Arglwyddi. Ond ni weithiodd hynny hyd yn oed. Ac mae pwdfa o’r fath raddau nes bod y Torïaid wedi sylwi fwyaf sydyn ei bod hi’n amser penderfynu herio holl fodolaeth y Tŷ.

Glanhau’r Tŷ

Ond llongyfarchiadau i’r aelodau etholedig ar lwyddo i ddinistrio degau o filoedd o ddogfennau treuliau pob un ohonynt cyn 2010, gan achosi ochneidiau di-ri o ryddhad i’r rhai oedd wedi bod yn hynod glen â’u hunain yn y blynyddoedd bras. Roedd nifer yn aros i’w cyhuddo ond wedi i awdurdodau Tŷ’r Cyffredin benderfynu eu rhoi yn y tân does dim prawf bellach. Hwre!

Amess y Torïaid

Efallai bydd y profiadol yn eich mysg yn cofio ymddangosiad David Amess ar y teledu’n 1997. Pwy? Wel, y fo oedd yr Aelod Seneddol a gododd y mater difrifol o’r cyffur Cake yn San Steffan ar ôl darllen sgript o nonsens gan Chris Morris ar y rhaglen Brass Eye. Mae’r Torïaid wedi penodi David fel cadeirydd y pwyllgor fydd yn gwahardd cyffuriau newydd.

Gwlad, Gwlad …

Yn rhoi taw ar y cyhuddiadau unwaith ac am byth bu i berchennog Snowdon Café (neu Pen-y-Ceunant gynt) ymateb i lythyr gan Gomisiynydd y Gymraeg yn nodi cwyn am agwedd gwrth-Gymraeg posib drwy ddatgan ei fod am dynnu pob gair o Gymraeg (ond beth am yr arwydd ‘Take home some Bara Brith’?) o’r caffi, yr enw Cymraeg a’r Ddraig Goch o’r tu allan gan adael y faner Brydeinig yn unig i hedfan fry. Fydd, os unrhyw beth, yn symudiad busnes dewr ar drothwy mis Tachwedd yn Llanberis ond hei lwc.

… Pleidiol Wyf i’m Gwlad

‘Dylai’r gwledydd dalu cyflogau chwaraewyr pan maent yn chwarae i’w gwlad’ datganodd y Cymro Tony Pulis, sy’n rheoli West Bromwich Albion yn Y Gynghrair Orau yn y Byd. Er na fyddai Lloegr yn or-hapus i dalu cyflog Wayne Rooney byddai’n haws iddynt nac i Gymdeithas Bêl-droed Cymru gyfateb cyflog Real Madrid Gareth Bale. Roedd Tony o Gasnewydd yn bendant a chadarn iawn i alw Lloegr yn ‘we’ droeon wrth bynditio sioe uchafbwyntiau ar ITV y llynedd, gyda llaw.