Mae dau Balesteiniad wedi ymosod ar ganolfan yr heddlu ar y Lan Orllewinol gyda chyllyll yn eu dwylo, ac mae byddin Israel wedi ymateb trwy saethu atyn nhw, a lladd un.
Yn ol adroddiadau, fe ddaeth y ddau at y ‘checkpoint’ ar gefn motobeic, cyn mynd am un o’r heddlu parafilwrol oedd yn gwarchod y ffin. Fe ymatebodd swyddog trwy saethu atyn nhw.
Dyma’r digwyddiad diweddara’ mewn cyfres dros y chwech wythnos ddiwetha’, lle mae gwrthdaro wedi bod rhwng Palesteiniaid ac Israeliaid.
Mae 11 o Israeliaid, a 64 o Balesteiniaid, wedi’u lladd yn ystod y cyfnod hwn, gyda 39 o Balesteiniaid yn cael eu cyhuddo gan Israel o ymosod ar rai mewn awdurdod.