Mae morlo ifanc wedi’i achub oddi ar draeth yng ngogledd-orllewin Mon, ac mae’r elusen sy’n gwarchod anifeiliaid yn amau ei fod wedi’i frathu gan gi.

Fe gafodd yr RSPCA eu galw i draeth ger llwybr cyhoeddus yn Rhosneigr gan aelod o’r cyhoedd.

“Er ei bod wedi’i hanafu,” meddai llefarydd ar ran yr RSPCA, “roedd y morlo llwyd i’w weld yn iach fel arall ac yn llawn bywyd.

“Mae wedi’i drosglwyddo i uned lle mae’n derbyn triniaeth a chyfle i ddod ato’i hun.”

Mae’r RSPCA yn gofyn i unrhyw un sy’n gweld morlo ifanc ar ei ben ei hun, i gysylltu efo nhw, a hefyd i fod yn wyliadwrus pan maen nhw’n cerdded eu cwn mewn ardaloedd lle mae morloi’n bridio.