John Kerry, Ysgrifennydd Gwladol America
Mae cefnogwyr mwya’ llywodraeth Syria, o bob cwr o’r byd, wedi agor trafodaethau ar ddyfodol y wlad – a hynny yn y gobaith y bydd modd dod a rhyfel cartref gwaedlyd i ben, a chael gwared ar yr arlywydd, Bashar al-Assad.

Mae Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau, John Kerry, yn cyfarfod gweinidogion a chynrychiolwyr 18 o wledydd eraill yn ninas Fienna.

Mae’r gwledydd hynny’n cynnwys Iran – am y tro cynta’ – ynghyd a Rwsia, er bod y wlad honno ymhlith cefnogwyr Mr al-Assad.

“Rydw i’n obeithio y medrwn ni ddod o hyd i ffordd ymlaen,” meddai John Kerry wrth newyddiadurwyr heddiw. “Mae hi’n anodd iawn.”