Y ward newydd
Bydd y gyntaf o dair ward newydd yn Ysbyty Glan Clwyd Bodelwyddan yn agor ei drysau heddiw ar ôl cael ei hadnewyddu.
Y ward gyntaf fydd yn cael ei hagor fydd Ward Gofal yr Henoed, gyda’r ward Llawfeddygol yn dilyn ar Dachwedd 14 a’r Ward Feddygol ar Dachwedd 24.
Bydd gan y wardiau hyn gyfleusterau newydd yn cynnwys ystafelloedd sengl ac ystafeloedd ymolchi ar wahân.
Mae Ymddiriedolaeth Betsi Cadwaladr hefyd wedi cyhoeddi y bydd tair ward arall yn cael eu trosglwyddo i’r contractwyr adeiladu er mwyn tynnu asbestos cyn eu hailwampio’n llwyr, yn barod ar gyfer eu hail agor ym mis Medi 2016.
Ac ar ddiwedd mis Tachwedd, bydd Uned Dydd Wroleg, adran Peirianneg Electro-Biofeddygol newydd sy’n gyfrifol am offer ysbtty a Switsfwrdd newydd i’r ysbyty yn cael eu hagor.
Urddas a pharch i gleifion
“Rydym yn falch iawn bod y tair ward newydd gyntaf yn barod i’w hagor y mis hwn,” meddai Ellen Greer, Rheolwr Gweithredol Safle’r Ysbyty.
“Bydd y cynllun newydd yn rhoi mwy o urddas a pharch i gleifion ac yn ein helpu ni atal haint rhag lledaenu. Cafodd y wardiau eu tynnu oddi wrth ei gilydd yn llwyr, yn ôl i’r ffrâm ddur er mwyn tynnu’r asbestos ac maen nhw bellach wedi cael eu hailwampio’n llwyr i safonau modern nes creu amgylchedd golau a chroesawgar i ofalu am ein cleifion.
“Rydym yn cydnabod bod y gwaith sy’n digwydd y tu mewn i’r ysbyty yn gallu amharu ar gleifion ac ymwelwyr ac yn gallu bod yn ddryslyd ar adegau. Rydym yn ymddiheuro am hyn ac yn diolch i bobl am eu hamynedd a’u dealltwriaeth.”