Mae deg o bobol wedi’u harestio wedi cyfres o gyrchoedd gan Heddlu De Cymru yn ninas Abertawe.
Mae gwerth £10,000 o’r cyffur canabis wedi’i gadw hefyd, yn ogystal ag arian parod a cherbydau.
Mae’r deg dyn sydd yn y ddalfa i gyda rhwng 21 a 42 mlwydd oed.
Mae pump ohonyn nhw wedi cael eu holi ar amheuaeth o fwriadu cyflenwi canabis, ac mae’r pump arall wedi’u harestio am fod a’r cyffur yn eu meddiant.