Mae Heddlu Gogledd Cymru yn cynghori gyrwyr i osgoi un rhan o briffordd yr A55, yn dilyn damwain.
Mewn neges ar wefan gymdeithasol Twitter, mae’r heddlu’n rhybuddio bod oedi mawr ar y briffordd yn ardal Caerwys a Lloc i gyfeiriad y dwyrain.
“Oherwydd gwrthdrawiad, mae’r ffordd wedi cau,” meddai Heddlu Gogledd Cymru. “Byddwch cystal ag osgoi’r ardal a dewis ffordd arall. Diolch.