Mae sylfaenydd gwefan arbed arian yn rhoi hanner miliwn o bunnau at raglen sy’n cydweithio gyda banciau bwyd ac yn galluogi miloedd o bobol i derbyn cymorth yn rhad ac am ddim gydag arian a dyledion.

Fe fydd Martin Lewis o wefan MoneySavingExpert.com yn helpu Ymddiriedolaeth Trussell, sy’n rhedeg dros 430 o fanciau bwyd led-led Prydain, trwy gynnig cyngor ariannol mewn 30 o ganolfannau.

Dywedodd Martin Lewis: “Dros y tair blynedd ddiwethaf, mae’r cwmni wedi parhau i dyfu, gan dorri miliynau oddi ar filiau pobl gyffredin a thrwy hynny yn ymladd eu cornel.”

Croesawodd prif weithredwr Ymddiriedolaeth Trussell, David McAuley, y cyfraniad ariannol trwy ddweud: ” Mae’r cynlluniau peilot yn gymorth enfawr i’n cleientiaid mwyaf bregus.

“Mae pobol sy’n dioddef oherwydd taliadau’r tŷ, diswyddiadau neu salwch tra ar incwm isel wedi’u cynorthwyo gan gynghorwyr i fagu hunan hyder i daclo eu sefyllfa ariannol, a thrawsnewid eu bywydau.

“Yr ydym yn ddiolchgar i Martin am y rhodd ariannol ac yn edrych ymlaen i weithio gyda mwy o fanciau bwyd i ymestyn y peilot.”