Mae’r heddlu wedi cyflwyno cynlluniau i siarad â phobl sydd wedi dioddef o droseddau dros Skype yn lle ymweld â’u cartrefi, fel ffordd o ddelio â chyllidebau llai.
Bwriad y cynllun, fydd yn cael ei dreialu yn Swydd Gaergrawnt, fydd caniatáu mwy o amser i swyddogion batrolio’r strydoedd.
Bydd pobl yn cael eu hannog i ffonio, galw ar Skype dros y we neu ymweld â’r orsaf heddlu er mwyn adrodd am droseddau, gyda swyddogion dim ond yn ymweld â chartref “pan fo angen”.
Ond mae’r syniad eisoes wedi cael ei feirniadu gan rai sydd yn honni y bydd yn “gam yn ôl” ac y gallai henoed a phobl sydd methu fforddio cyfrifiadur gael eu hamddifadu.
‘Symud gyda’r oes’
Dywedodd Oz Merrygold, ysgrifennydd Ffederasiwn Heddlu Swydd Caergrawnt, “nad oedd hi’n bosib bellach” ymweld â thai ble roedd rhywun wedi torri mewn oherwydd y toriadau.
“Rydyn ni wedi gorfod ailddiffinio’r ffordd rydyn ni’n plismona,” meddai, gan ddweud bod yr oes sydd ohoni yn golygu y bydd mwy o gysylltu dros wefannau cymdeithasol yn y dyfodol.
Cyfaddefodd fodd bynnag mai’r genhedlaeth hŷn oedd ddim wedi arfer defnyddio cyfrifiaduron a chysylltu dros wasanaethau fel Skype fyddai’n cael eu taro waethaf, gan ddweud bod angen “gwarchod y rheiny sydd fwyaf bregus yn ein cymdeithas”.
Yn ôl pennaeth heddlu ardal Peterborough Melanie Dales fe fydd y cynllun newydd yn galluogi swyddogion i ymateb yn gynt pan fydd troseddau.
“Fe fydd swyddogion, sydd yn defnyddio cyfran fawr o’u hamser yn teithio ar draws y ddinas o un apwyntiad i’r llall, nawr â mwy o amser i batrolio’u cymunedau,” meddai.
‘Cam yn ôl’
Mae’r cynllun wedi cael ei feirniadu gan rai cyn-swyddogion, fodd bynnag.
“Mae hwn yn gymaint o gam yn ôl – ond pan mae cyllidebau yn cael eu torri o filiynau fe fydd ‘plismona rhithwir’ yn dod yn arferol,” meddai Clive Chamberlain.
Ychwanegodd Norman Brennan o Lundain, sydd bellach wedi ymddeol, fod angen i swyddog heddlu ymweld ag unrhyw un oedd wedi dioddef lladrad i’w cartref gan ei fod yn “drosedd bersonol”.
Yn gynharach yr wythnos hon fe awgrymodd pennaeth Cyngor y Penaethiaid Heddlu Cenedlaethol Sara Thornton na ddylai’r cyhoedd ddisgwyl i’r heddlu ymweld â chartrefi mewn pob achos o ladrata wrth iddyn nhw ganolbwyntio ar achosion eraill, awgrym gafodd ei wrthwynebu’n chwyrn gan y Gweinidog Trosedd Mike Penning.