Mae 21 o bobol wedi marw, wedi i ddau gwch yn cario ffoaduriaid o Dwrci i wlad Groeg suddo.

Fe gafodd 18 o bobol eu lladd, a 138 o bobol eu hachub oddi ar ynys Kalymnos, tra bod tri arall wedi marw, a chwech arall wedi’u hachub, mewn digwyddiad arall oddi ar arfordir ynys Rhodes.

Fe ddaw hyn yng nghanol ton o ymfudo o Syria, Afghanistan a gwledydd eraill yn y Dwyrain Canol, ac wrth i lywodraethau Ewrop gysidro cymryd camau i leihau’r nifer o ffoaduriaid sy’n cyrraedd Ewrop.

Fe gafodd 8 o bobol eu lladd ddoe, wedi i’r cwch pren yr oedden nhw’n teithio ynddo suddo yn y tonnau ger ynys Lesbos.