Morgan Owen
Morgan Owen sy’n trafod deuoliaeth y dref a’i Chymreictod
Tref o ddeuoliaethau yw Aberystwyth, lle mae pethau gwrthgyferbyniol yn cydgyfarfod ac yn ymgorffori cyfander newydd. Dyma dre a dry groesebau’n wirebau, a hen wirioneddau’n wyrdroadau.
Dyma dref a saif ar riniog deufyd, ac sydd yn syllu i berfeddion dau ddyfodol.
Ymgorffora Aberystwyth dawelwch a dwndwr ar y cyd â’i gilydd; deil y ddeubeth ynghyd fel bod y naill yn adlewyrchiad o’r llall.
I’r sawl a fynno dawelwch, cynddelw o dre arfordirol, wledig Gymreig yw hi, gyda’r Môr Iwerydd yn rhagfur rhyngddi â’r Gorllewin, a’r Elenydd yn rhagfur rhyngddi â’r Dwyrain.
I’r sawl a wêl y dre felly, gwisga wregys o unigedd amdani, ac fe ffinia â gwacter maith. Gwerddon ydyw i’r neb o anian feudwyol.
Ar yr un pryd, fodd bynnag, mae Aberystwyth yn fychanfyd o’r hollfyd. Crynhoir yn y dre hon bobl o aneirif wledydd a chenhedloedd, ac yn gymaint ag y mae’n encilfa i’r sawl a ffy rhag y byd, daw’r byd atoch chithau yn Aberystwyth.
Ar y wedd hon, byrlymus o dre yw Aberystwyth, tre ar ffrwst gyda mynd-a-dod parhaus pobloedd a gluda ei henw gyda nhw megis marwor goddaith i bedwar ban y byd, yn barod i ailgynnau yn freuddwydion hiraethus. Yr oddaith yw eu hafiaith o ddistyllu’r byd cyfan yn wirod Cymreig, a’i ddrachtio’n ddwfn o bair y bobloedd― Aberystwyth.
Iaith naturiol
Ymgorffora Aberystwyth y groeseb fwyaf dyrys yng nghyswllt y Gymraeg. Erys mewn nifer o ffyrdd yn dre Gymraeg, neu’n dre led-Gymraeg o leiaf.
Ceir ym mhobman yna dystiolaeth i hyfywedd yr iaith, yn sgyrsiau ar y stryd, yn enwau uwchben y siopau, yn y sefydliadau cenedlaethol a leolir yna fel y Llyfrgell Genedlaethol lle mae’r staff yn eich cyfarch yn y Gymraeg yn gyntaf.
Yn y pethau hyn, cawn olwg ar y Gymru a all fod, lle mae’r Gymraeg mor naturiol a chartrefol ymysg amrywiaeth ieithyddol, yn cyd-fyw â thafodau eraill, ond yn sicr o’i lle fel yr iaith frodorol, yr iaith gyntaf.
Ac a sôn am bobloedd yn ymdoddi’n un, ceir yn Aberystwyth fewnfudwyr lu a ddysgodd yr iaith gan ddod yn Gymry yn y pen draw― ac maent yn wrthbwynt grymus i Brydeindod cul, ac yn dysteb i amlethnigrwydd cynhwysol y Gymraeg a’i gallu i gymathu siaradwyr newydd.
Newydd-ddyfodiaid
Ond fel mae’r morynnau yn hyrddio eu hunain at ei glannau, mae llanw arall yn cyrraedd Aberystwyth. Heidia torfeydd o ddinasoedd mawrion Lloegr at y dre, rhai am eu gwyliau, rhai er mwyn byw yna.
Ni ellir beio neb am ddymuno byw rhywle mor gyfareddol, ond erbyn hyn, mae’r newydd-ddyfodiaid Seisnig yn nesu at fod yn fwy niferus na’r trigolion brodorol. Er bod yr iaith Gymraeg yn gallu cymathu newydd-ddyfodiaid, dibynna hynny i raddau helaeth ar agwedd y newydd-ddyfodiaid eu hunain.
Mae Seisnigrwydd cynhenid Prydeindod yn rhwystr i sawl un ohonynt yn hyn o beth, ac mi fydd tynged y Gymraeg yn Aberystwyth yn cael ei phenderfynu gan y graddau y llwyddir i gymathu’r mewnfudwyr Seisnig.
Ond dyna’r paradocs parthed y Gymraeg yn Aberystwyth; gall ymddangos yn fras, yn hyfyw ac yn hyderus yna, a gall ymddangos yn eiddil, ar drai, yn dibynnu ar eich safbwynt.
Tre ddeuolaidd yw Aberystwyth, ond yn un peth nid oes ddeuoliaeth iddi: tre ragorol ydyw, hollol gyfareddol, megis breuddwyd. Yna daw’r byd ynghyd, a daw’n fyd newydd, Cymreig, a Chymraeg.
Mae Morgan Owen yn astudio Cymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd.